Rôl Caffael
Prif rôl Caffael yn Asiantaeth yr Amgylchedd yw:
- Lleihau effaith amgylcheddol gweithgareddau caffael a’u hyrwyddo’n eang
- Rheoli risg fasnachol Asiantaeth yr Amgylchedd yn effeithiol
- Trafod, gosod a rheoli contractau a’r gadwyn gyflenwi er budd masnachol Asiantaeth yr Amgylchedd
- Dylanwadu ar agweddau a phrosesau traddodiadol
- Gwella effeithlonrwydd a darparu gwerth am arian wrth ymrwymo i wariant
Strategaeth Caffael
Nodau cyffredinol Strategaeth Caffael Asiantaeth yr Amgylchedd yw sicrhau:
- Arweiniad mewn Caffael Amgylcheddol
- Dynodi a dadansoddi portffolio gwariant yr Asiantaeth i ddynodi cyfleoedd
- Dynodi a dadansoddi risg i leihau digwyddiadau annisgwyl
- Cyfeirio adnoddau i’r meysydd gwerth gorau a risg mwyaf
- Creu fframwaith rheoli sy’n galluogi dirprwyo gwariant isel ei werth, gan leihau costau trafodion
- Gweithredu’r offer a’r technegau caffael diweddaraf i gynnal arfer gorau