Ailddefnydd masnachol o wybodaeth

Rydym yn darparu data a gwybodaeth o ansawdd uchel i hysbysu rhychwant eang o ddefnyddwyr ynghylch materion amgylcheddol. Mae trwyddedu ein gwybodaeth ar gyfer defnydd masnachol yn fodd effeithiol o gyflawni hyn.

Pa wybodaeth ydych ei hangen?

Yn gyntaf edrychwch ar ein Cofrestr Ased Gwybodaeth am wybodaeth yr ydym eisoes yn ei thrwyddedu.

Mae gwybodaeth arall sydd eisoes wedi'i chyhoeddi ac sy’n hygyrch i'r cyhoedd ar ein Cynllun Cyhoeddi - byddwn yn penderfynu a allwn drwyddedu ailddefnydd o'r wybodaeth hon ar gais.

Rydym hefyd yn dal gwybodaeth arall i gefnogi ein swyddogaethau statudol. Mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth hon ar gael ar gyfer trwyddedu. Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda i drafod eich anghenion a'r mathau o wybodaeth berthnasol sydd o bosib gennym.

Cais am drwydded

Mae'r broses drwyddedu ar gyfer ailddefnyddio'n data yn cael ei rheoli gan y Ganolfan Menter Gwybodaeth.
I gysylltu â ni, os gwelwch yn dda e-bostiwch mailto:data.info@environnment-agency.gov.uk.