Pa ffi fyddwn yn ei godi am ailddefnyddio ein gwybodaeth

Byddwn yn codi ffi resymol pan fyddwn yn trwyddedu ailddefnydd masnachol o'n gwybodaeth. Mae ein dull yn cael ei grynhoi isod, ond am fanylion llawn gweler y wybodaeth yn ein hadran ar Sicrhau Tegwch.

Defnydd Mewnol

Mae ein ffi ar gyfer defnydd 'Masnachol Mewnol Syml' yn seiliedig ar adennill y costau ffiniol y byddwn yn eu cael wrth drwyddedu gwybodaeth. Nid yw hyn yn cynnwys adennill unrhyw gostau a gawn wrth gynhyrchu neu reoli data ar gyfer ein hanghenion ein hunain.

Ble fo Defnydd Masnachol Mewnol yn cael ei ganiatáu o dan Rybudd Safonol (Masnachol), bydd ffi sefydlog o £10 yn cael ei wneud.

Pan fydd defnydd yn cael ei ganiatáu o dan drwydded wahanol, mae'r ffi yn cael ei bwyso'n ôl y math o ddata, y cyfaint neu ardal dan sylw, a'r gost i'w greu neu ei werth marchnad. Pan fyddwn yn gosod ffi bydd yn cael ei ychwanegu at ein Cofrestr Asedau Gwybodaeth.

Disgowntiau

Wrth asesu defnydd penodol o set ddata benodol, byddwn yn pennu p’un a yw disgownt yn briodol ar gyfer Defnyddwyr bach/canolig, y rheiny sydd angen trwydded i ddatblygu cynnyrch, a ble fo defnydd mewnol er mwyn cefnogi defnydd allanol.

Defnydd Masnachol Cymhleth Mewnol

Pan fydd angen Trwydded Defnydd Masnachol Cymhleth Mewnol, gosodir taliad Breindal ychwanegol.

Ailddefnydd Masnachol Allanol

Mae'r holl drwyddedau Ailddefnydd Masnachol Allanol angen hawliau defnydd mewnol. Felly, bydd y ffioedd ailddefnydd masnachol allanol a nodir isod yn ychwanegol at y ffioedd defnydd mewnol priodol.

Breindaliadau ar gyfer Cyflenwad Masnachol Allanol

Bydd sail ein ffi breindal ar gyfer cyflenwad masnachol allanol yn cychwyn ar 20% o'r incwm sy'n deillio o'n hasesiad o werth y cyflenwad a ddaw o'n data.  Byddwn yn addasu hyn i adlewyrchu:

  • grymoedd marchnad (i fyny neu i lawr), gan ystyried:-
  • sut mae'r cynnyrch yn 'edrych' (e.e. tabl neu adroddiad)
  • cyfaint y farchnad
  • potensial am dwf/ddirywiad marchnad
  • gwerth marchnad y gwasanaeth
  • buddiannau amgylcheddol

Rydym yn dewis gosod ffi breindal sefydlog fesul gwerthiant uned am set ddata benodol a'i defnydd, a byddwn yn gosod yr un egwyddorion codi ffioedd at bris adwerthu rhesymol. Mewn achosion o'r fath, dim ond ble’r ydym yn glir bod gwahaniaethau mewn amodau marchnad ar gyfer gwasanaeth/cynnyrch penodol yn cyfiawnhau ffi gwahanol y byddwn yn gosod ffi wahanol am y fath set ddata.

Trwyddedu Data Model a Methodolegau

Bydd taliadau breindal ar gyfer Data Model a Methodolegau yn seiliedig ar ganran o'r gost amcangyfrifiedig rhesymol o’i chreu neu ei chaffael, a'n hamcangyfrif o werthiannau posib.

Meddalwedd Cyfrifiadurol

Bydd taliadau breindal ar gyfer Meddalwedd Cyfrifiadurol yn seiliedig ar rymoedd marchnad ac, os yw'n briodol, y buddiannau amgylcheddol.

Defnydd bychan

Rhoddir trwyddedau data a hawlfraint ar gyfer Defnydd Masnachol Allanol bychan tu draw i'r hyn a ganiateir gan y Rhybudd Safonol (Masnachol). Nid oes ffi ychwanegol am ddefnydd allanol bychan o'r fath ble nad yw'r cynhyrchiad refeniw sydd i'w briodoli i'n data yn sylweddol (h.y. bydd y ffi lleiafswm o £100 ar gyfer defnydd mewnol yn weithredol).

Fel canllaw, bydd defnydd bychan yn gyfystyr â:

  • 1 ffotograff/map/tudalen A4 neu gywerth wedi'i gopïo hyd at 1,000 o weithiau,
  • 2 ffotograff /fap/ tudalen A4 neu gywerth wedi'i gopïo hyd at 500 o weithiau,
  • 5 ffotograff /fap/ tudalen A4 neu gywerth a wneir ar gael ar wefan

Fel canllaw, refeniw nad yw'n sylweddol yw ble fo'r gyfran o'n gwybodaeth yn erbyn y cyfanswm llyfr, gwefan ayyb., wedi'i luosogi gan y cyfanswm incwm a gynhyrchir bob blwyddyn yn llai na £500.

Defnydd Cyfryngau

Byddwn yn rhoi heibio ein ffi defnydd mewnol neu Freindaliadau ar gyfer Gweisg a Chyfryngau sefydledig, ble'r ydym yn credu fod y diddordeb cyhoeddus cyffredinol a’r buddiannau amgylcheddol yn fwy na'r angen i sicrhau bod breindaliadau teg yn cael eu talu gan sefydliadau masnachol.

Addasiad i Ffioedd ar gyfer Defnydd Masnachol Allanol

Wrth asesu'r ffi briodol byddwn yn ystyried addasiadau:

  • i adlewyrchu grymoedd marchnad (bydd unrhyw ddisgownt grym marchnad yr un fath ar gyfer unrhyw ddefnyddiwr o set ddata benodol ar gyfer pwrpas cyffelyb); ac/neu
  • i adlewyrchu buddiannau amgylcheddol (bydd unrhyw ddisgownt grym marchnad yr un fath ar gyfer unrhyw ddefnyddiwr o set ddata benodol ar gyfer pwrpas cyffelyb).

Ble'r ydym eisoes wedi gosod ffi breindal sefydlog neu ffi breindal canrannol fesul uned gwerthiant ar gyfer set ddata benodol a’i defnydd, dim ond os y gellir ei gyfiawnhau’n llawn y byddwn yn amrywio'r ffigwr hwn ar gyfer defnydd gwahanol. Bydd maint unrhyw addasiadau yn sefydlog, o leiaf o safbwynt yr un set data ar gyfer yr un pwrpas.