Sicrhau tegwch

Rydym yn cynnal ein trwyddedu o fewn ffiniau sydd wedi'u gosod gan y Rheoliadau ar Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Gyhoeddus, Cyfraith Cystadleuaeth a'n hymrwymiadau i fod yn deg, agored a thryloyw fel Masnachwr Teg Gwybodaeth achrededig.

Rydym yn cynnal ein trwyddedu o fewn ffiniau sydd wedi'u gosod gan y Rheoliadau ar Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Gyhoeddus, Cyfraith Cystadleuaeth a'n hymrwymiadau i fod yn deg, agored a thryloyw fel Masnachwr Teg Gwybodaeth achrededig.

Cynllun Masnachwr Teg Gwybodaeth

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymrwymedig i fasnachu gwybodaeth yn deg. I ddangos nerth yr ymrwymiad hwn, rydym wedi derbyn achrediad gan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI).

Rydym yn falch o fod yn agored a thryloyw gyda'n rhanddeiliaid. Rhan bwysig o hynny yw gwneud data a gwybodaeth ansawdd uchel ar gael i aelodau'r cyhoedd, boed yn uniongyrchol neu drwy ddefnyddwyr masnachol. Mae gan ddefnyddwyr masnachol rôl bwysig i'w chwarae wrth ddarparu mynediad at ddata a gwybodaeth gwerth ychwanegol, fel bod penderfyniadau bob dydd a rhai sy'n newid bywydau'n cael eu gwneud gydag ymwybyddiaeth lawn o'r amgylchedd. Rydym yn hapus i fasnachu data a gwybodaeth gyda defnyddwyr masnachol ar faes chwarae gwastad.

Rydym yn ymroddedig i fasnachu data a gwybodaeth yn deg gyda defnyddwyr masnachol a chyrff sy'n bartneriaid. Byddwn yn gwneud hyn yn unol â phum colofn y cynllun: gonestrwydd, tryloywder, tegwch, cydymffurfiad a her.  Rydym hefyd eisiau:

  • uchafu'r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer ei hailddefnyddio gan ddeiliaid trwydded, y nifer ac amrywiaeth o ddeiliaid trwydded, a'r nifer ac amrywiaeth o ddulliau ailddefnyddio data a gwybodaeth Asiantaeth yr Amgylchedd;
  • gwybodaeth glir, gywir, hygyrch a chyflawn sydd ar gael yn gyhoeddus ar hyn o bryd ynghylch y prosesau trwyddedu, y cymwysterau ar gyfer gwahanol fathau o driniaeth trwyddedu, a'r telerau megis prisio. Bydd deiliaid trwydded posib yn gallu deall rôl trwyddedu yng nghynhyrchiad a chynnal a chadw'r data a'r wybodaeth sydd wedi'i thrwyddedu ar gyfer ei hailddefnyddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd.  Bydd y wybodaeth hon, yn ogystal ag unrhyw eithriadau, ar gael ar ein gwefan ac o'r Ganolfan Menter Gwybodaeth;
  • sicrhau bod y driniaeth o ddeiliaid trwydded gwirioneddol a phosibl yn deg.  Bydd triniaeth a chanlyniadau teg yn amlwg rhwng gwahanol ddeiliaid trwydded a grwpiau o ddeiliaid trwydded, a rhwng deiliaid trwydded ac Asiantaeth yr Amgylchedd fel Masnachwr Teg Gwybodaeth. Byddwn yn cwrdd ag amodau’r Ddeddf Cystadleuaeth 1988;
  • sicrhau, drwy adolygiad ac archwiliad, bod ein prosesau busnes masnachu gwybodaeth yn effeithiol, cadarn ac ddim yn cael eu hosgoi;
  • gostwng cyn belled â phosib y baich gweinyddol ar bobl sy'n ailddefnyddio gwybodaeth sector gyhoeddus a sicrhau bod y prosesau ar gyfer masnachu gwybodaeth yn debyg i rai gweddill y sector gyhoeddus; a
  • chael prosesau cwyno cadarn a theg. Os yw OPSI yn penderfynu archwilio cwyn, byddwn yn caniatáu i dîm archwilio weld y staff a chofnodion perthnasol.