Pwyllgorau Cymru

Mae tri phwyllgor statudol yng Nghymru, pob un a’i gyfrifoldeb ei hun, ac yn gwneud ei gyfraniad ei hun at wneud Cymru’n well lle ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

Sefydlwyd y pwyllgorau gan San Steffan tan Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Maent yn cynnwys aelodau allanol a etholwyd i’r pwyllgor oherwydd eu gwybodaeth arbenigol y tu allan i Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mae pwyllgorau’n rhan hanfodol o’n gwaith ni yng Nghymru, ac yn natblygu perthnasau â chyrff allanol. Mae’r aelodau’n gwasanaethu’n wirfoddol er budd yr amgylchedd, ac yn ein cynghori ni ynghylch ein perfformiad a’n polisi ni yng Nghymru. Disgwylir i aelodau fod yn “feirniaid cyfeillgar”, yn gyfathrebwyr, ac yn gynghorwyr gwerthfawr. Darparant arweiniad a chefnogaeth i Gyfarwyddwr Cymru, a chynghorant ynghylch amddiffyn yr amgylchedd, pysgodfeydd, adloniant ac amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru.

Mae’r pwyllgorau’n cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn, ac y mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd. Os dymunwch ddod draw, cysylltwch â Michelle Duggan.

Cyswllt