Ateb galwadau ffôn
Byddwn yn ateb 90% o alwadau o fewn 15 eiliad yn ystod oriau gwaith cyffredin (9am tan 5pm, Llun i Gwener).
Eich hawl i wybod
Byddwn yn darparu atebion ysgrifenedig o fewn 10 diwrnod gwaith. Os na allwn wneud hyn, byddwn yn gadael i chi wybod pryd y gellwch ddisgwyl clywed gennym. Ers 1 Ionawr 2005, rydym yn amcanu at anfon ymateb llawn o fewn 20 diwrnod gwaith fel y nodir gan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Neu ar gyfer ceisiadau o dan y Ddeddf Diogelu Data, byddwn yn anfon ateb llawn o fewn 40 diwrnod.
Gwasanaeth Gwybodaeth Llifogydd
Byddwn yn ateb 90% o alwadau i’r Llinell Llifogydd o fewn 15 eiliad (mae gwasanaeth iaith Gymraeg hefyd ar gael). Byddwn yn anfon allan 99% o becynnau gwybodaeth Llinell Llifogydd erbyn y diwrnod gwaith canlynol.
Rhybudd Llifogydd
Byddwn yn darparu Rhybudd Llifogydd o leiaf ddwy awr cyn i lifogydd ddigwydd mewn ardaloedd ble’r ydym yn medru darparu gwasanaeth.
Gwybodaeth ynghylch lociau camlas (ar afonydd ble’r ydym yn awdurdod mordwyaeth)
Byddwn yn hysbysebu bob tro rydym yn cloi lociau ar gyfer trwsio a chynnal a chadw sydd wedi ei gynllunio, gan roi o leiaf un mis o rybudd.
Mynychu digwyddiadau y credwn sydd ag effaith fawr ar yr amgylchedd
Yn achos digwyddiadau mordwyaeth, llygredd neu bysgodfeydd, y credwn all gael effaith fawr ar yr amgylchedd, byddwn yno o fewn dwy awr (pedair awr os tu allan i oriau cyffredin).
Adborth ar adroddiadau digwyddiadau
Pryd bynnag cawn wybod am ddigwyddiad, byddwn yn sicrhau ein bod yn gadael i’r sawl a adroddodd amdano wybod beth oedd y broblem a beth rydym wedi ei wneud i’w datrys.
Ceisiadau Caniatâd
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais (sicrhewch, os gwelwch yn dda, eich bod wedi ei gwblhau yn gywir a’i fod yn cynnwys yr holl wybodaeth rydym ei hangen, gan gynnwys y ffi os yn briodol), byddwn yn cychwyn ei brosesu. Mae gwahanol fathau o geisiadau yn cymryd gwahanol gyfnodau i’w prosesu.