Safleoedd gwastraff anghyfreithlon 2010

Manylion am safleoedd gwastraff anghyfreithlon yn 2010.

Mae cost cael gwared â gwastraff yn gyfreithlon wedi rhoi cyfle i droseddwyr elwa ar waredu gwastraff yn anghyfreithlon.  Mae’r elw posibl yn sylweddol.

Mae gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon yn cymryd busnes oddi wrth weithredwr safleoedd rheoledig, yn peri risg ddifrifol i’r amgylchedd a gallant ddifetha cymunedau cyfagos. Er bod nifer y safleoedd anghyfreithlon wedi disgyn o 872 i 661 yn ystod y tair blynedd diwethaf, maent yn fygythiad difrifol i bobl a’r amgylchedd o hyd.

Yn 2010/11, gwnaethom atal bron i 1,200 o safleoedd gwastraff rhag gweithredu’n anghyfreithlon, naill ai trwy eu gwneud yn gyfreithlon neu eu cau.

Yn 2010, gwnaed 280 o erlyniadau llwyddiannus ar gyfer troseddau gwastraff yng Nghymru a Lloegr.  Arweiniodd y rhain at bron i £950,000 o ddirwyon a chafodd pum unigolyn eu dedfrydu i’r carchar.

Fodd bynnag, yn 2010/11, gwnaethom ganfod 930 o safleoedd gwastraff anghyfreithlon newydd hefyd.  Felly, mae’r broblem yn sylweddol o hyd.  Rydym wedi blaenoriaethu hyd at £5 miliwn o wariant ychwanegol i fynd i’r afael â throseddau gwastraff yn ystod y 2 flynedd nesaf.

Nifer y safleoedd gwastraff anghyfreithlon 2008/09 i 2010/11

Mae’r graff yn dangos nifer y safleoedd gwastraff anghyfreithlon gweithredol o chwarter cyntaf 2008/09 i bedwerydd chwarter 2010/11. Digwyddodd lleihad cyson yn nifer safleoedd gwastraff anghyfreithlon o 872 yn chwarter cyntaf 2008/09 i 661 ym mhedwerydd chwarter 2010/11.

Rhagor o adroddiadau Busnes Gwyrddach yn ôl achos