Canllaw paratoi am lifogydd ar gyfer busnes

Peidiwch â gadael i lifogydd foddi eich busnes. Mae llifogydd yn un o’r trychinebau mwyaf cyffredin ac eang eu rhychwant ac maent yn tyfu o ran amlder a gerwinder o ganlyniad i effaith cynhesu byd-eang.

Gweithredoedd syml er mwyn gwarchod eich busnes

1. Canfyddwch a yw’ch busnes chi mewn perygl

Teipiwch eich cod post yn y blwch 'Map Llifogydd' ar y dde er mwyn canfod p’un ai yw eich busnes chi mewn perygl o lifogydd.  Neu, galwch Linell Llifogydd ar 0845 988 1188.

2. Byddwch yn wybodus - cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd

Rydym yn cynnig gwasanaeth o’r enw Rhybuddion Llinell Llifogydd Uniongyrchol mewn ardaloedd mewn perygl uchel o lifogydd.  Mae hwn yn wasanaeth am ddim sy’n darparu rhybuddion llifogydd yn uniongyrchol i chi drwy’r teleffon, ffôn symudol, neges testun SMS a ffacs.  Gallwch gofrestru ar-lein.

3. Byddwch yn barod – diogelwch eich busnes rhag llifogydd

Mae eich busnes yn fwy tebygol o gael ei orlifo nag i losgi i’r llawr, felly mae’n hanfodol eich bod yn paratoi nawr.  Lluniwch gynllun a fydd yn cadw eich cwmni i fynd pe digwydd y gwaethaf.

    Ymunwch â’r drafodaeth

    Cymuned ar Facebook yw Flood Group UK ar gyfer pobl sy’n cael eu heffeithio gan lifogydd neu’n wynebu perygl llifogydd. Ymunwch nawr am gymorth a newyddion ac i rannu eich profiadau.

    Map llifogydd

    Ydych chi mewn perygl o ddioddef llifogydd?Nodwch eich cod post neu enw lle i gael gwybod nawr...