Beth yw Dŵr Daear?

Dysgwch fwy am y gronfa ddŵr croyw fwyaf sydd ar gael

Dŵr daear yw'r gronfa ddŵr croyw fwyaf sydd ar gael. Mae diagram 'Dosbarthiad Dŵr y Byd' (cliciwch ar y ddelwedd ar y chwith i'w ehangu) yn dangos bod y mwyafrif o'r dŵr croyw wedi ei gloi ar ffurf rhew yng nghapiau iâ'r pegynnau, haenau rhew cyfandirol a rhewlifoedd. Mae dŵr mewn afonydd a llynnoedd yn cynrychioli cyn lleied ag 1% o gronfeydd dŵr croyw y byd.

Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o'r rhan y mae dŵr daear yn ei chwarae yn y gylchred dŵr - mae dŵr yn disgyn fel glaw ac eira ar y tir (dyddodiad); ac yn mwydo i'r pridd, gyda’r glawiad sydd dros ben yn llifo dros y tir i'r afonydd. Unwaith y bydd anghenion gwreiddiau planhigion a lleithder pridd wedi'u bodloni, bydd y dŵr sy'n weddill yn parhau ei siwrnai i lawr i'r haenau craig sydd o dan y pridd. Mae gan yr haenau craig tanddaearol hyn y gallu i adael i ddŵr lifo trwyddynt, naill ai drwy graciau ac agoriadau mawr yn y graig, neu drwy fylchau bach rhyng-gysylltiedig rhwng gronynnau craig unigol. Dŵr daear yw’r dŵr a gynhwysir yn y creigiau hyn; a gelwir creigiau o'r fath yn ddyfrhaenau.

Efallai mai'r modd gorau o greu delwedd o ddyfrhaen yw fel sbwng enfawr. Mae dŵr gyda chymorth disgyrchiant yn llenwi'r ddyfrhaen yn naturiol o'r gwaelod i fyny. Gelwir y rhan waelod hon o'r ddyfrhaen sydd â bylchau yn cael eu llenwi'n llwyr gan ddŵr yn 'haenen ddirlawn' y ddyfrhaen. Yn rhan uchaf y ddyfrhaen mae bylchau'r graig yn cynnwys aer yn ogystal â dŵr, yma gelwir y ddyfrhaen yn 'annirlawn'. Mae'r ffin lle mae'r ddyfrhaen yn newid o fod yn annirlawn i ddirlawn wedi'i marcio fel ‘lefel trwythiad’ (mae'n cael ei ddangos fel llinell â thoriadau ar y diagram 'Cylchred Hydrolegol' - gweler i'r chwith).

Nid yw dŵr mewn dyfrhaen yn eistedd yn llonydd - mae'n llifo drwy fylchau a chraciau yn y graig, yn cael ei dynnu gan ddisgyrchiant; a'i wthio gan rym y dŵr sydd uwch ben a thu ôl iddo. Mae'r dŵr yn symud o ran lle mae'r dŵr yn cael mynediad at y  ddyfrhaen (parth ail-lenwi) i fan lle mae dŵr yn gadael y ddyfrhaen (parth gollwng). Yn y mannau lle mae gollyngiad yn digwydd, gall tarddiadau ymddangos, a bydd y ddyfrhaen yn cyfrannu dŵr daear i gefnogi llif afonydd a chynnal cynefinoedd pwysig megis ffeniau a chorstir.

Mae symudiad dŵr daear drwy'r ddyfrhaen yn cael yr effaith o dynnu llawer o amhureddau o'r dŵr, ei hidlo drwy’r graig fel bod dŵr daear yn llawer glanach na dŵr arwyneb yn gyffredinol. Gan fod dŵr daear yn gyffredinol yn lân iawn yn aml nid oes angen ond ychydig neu ddim triniaeth cyn ei ddefnyddio, mae'r lefel o driniaeth yn dibynnu ar ei ddefnydd. Mae hyn yn gwneud dŵr daear yn ffynhonnell ‘ddŵr crai’ rad iawn ar gyfer cyflenwad cyhoeddus. Gellir cael mynediad at y dŵr croyw hwn drwy ddrilio i lawr i'r haenau craig sy’n dal y dŵr a phwmpio'r dŵr allan.

Mae dyfrhaenau sy'n agos at, neu'n brigo ar, wyneb y ddaear yn fwy tebygol o gael eu llygru neu o ddioddef difrod ffisegol, a allai niweidio ansawdd a llif y dŵr daear. Mae llif dŵr daear yn arafach na dŵr wyneb, a'r mwyaf dwfn yn y ddyfrhaen mae'r dŵr, y mwyaf araf y bydd yn symud. Oherwydd hyn pan fydd dŵr daear yn cael ei lygru a'r llygredd yn symud yn ddwfn i'r ddyfrhaen, mae'n bosib i'r dŵr barhau i fod yn llygredig am amser hir iawn (gweler y diagram 'Llif Dŵr Dyfrhaen' i'r chwith). Gallai hyn yn ei dro arwain at ddirywiad yn ansawdd y dŵr yfed a gyflenwir o ffynhonnell dŵr daear neu ddifrodi afonydd ac ecosystemau bregus sy'n dibynnu ar ddŵr daear.