Cofrestrwch mewn crynswth

Sut i gofrestru nifer o eiddo gwastraff peryglus ar yr un pryd.

Gwneud cais ar ddisg neu drwy e-bost

Os oes angen i chi gofrestru nifer o eiddo gwastraff peryglus ar yr un pryd, gallwch anfon ffeil electronig i ni ar ddisg neu drwy e-bost. Gallwch gofrestru cynifer â 2,000 eiddo ar yr un pryd.

Talu

Mae hyn yn costio £18 am bob eiddo a gofrestrir. Gallwch dalu drwy:

  • siec
  • BACS
  • cerdyn credyd

Byddwch gystal â dweud sut rydych yn mynd i dalu mewn e-bost neu ar frig y ffurflen os ydych yn gwneud cais drwy’r post. Os ydych eisiau talu â cherdyn credyd, sicrhewch, os gwelwch yn dda, eich bod yn dweud hyn yn glir yn yr e-bost a anfonwch a bydd aelod o’r tîm gwastraff peryglus yn ei galw i gasglu eich taliad. Ar y daenlen gwneud cais mewn crynswth, byddwch gystal â dethol BACS fel y dull o dalu.

Sut i wneud cais

Fformat ffei:

Mae ein systemau angen i chi anfon y ffeil i ni mewn fformat a elwir yn XML.

Rydym wedi darparu taenlen Excel, ar fydd yn cynhyrchu’r ffeil XML ar eich cyfer, a chyfarwyddyd ynghylch sut i’w defnyddio:

Cadwch gopi ar eich cyfrifiadur a sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf (v2.0).

Gallwch greu eich ffeil XML eich hun, os ydych yn gwybod sut i wneud hyn, fel dewis amgen i ddefnyddio’r daenlen Excel. Lawrlwythwch y ddogfen sgema sy’n eich caniatáu i wirio bod eich ffeil XML yn gywir.

Ffurflen gais

Rhaid i chi gwblhau ffurflen gais HWRB01 i fynd gyda’r ffeil XML.

Gallwch naill ai brintio’r ffurflen allan a’i chwblhau mewn llawysgrifen: neu ei chwblhau ar eich cyfrifiadur ac yna ei phrintio a’i harwyddo NEU ei harwyddo’n electronig a’i hanfon trwy e-bost.

Cyfarwyddyd ynghylch sut i gwblhau’r ffurflen gais mewn crynswth::

Anfon ceisiadau mewn crynswth i ni

Gallwch anfon eich ffeil XML i ni naill ai drwy e-bost, neu yn y post ar ddisg.
Rhaid i chi anfon ffurflen gais HWRB01 wedi’i chwblhau yn ogystal i fynd gyda’r ffeil.

Ein cyfeiriad ar gyfer ceisiadau ar ddisg:

Asiantaeth yr Amgylchedd
Quadrant 2
99 Parkway Avenue
Parkway Business Park
Sheffield.
S9 4WG

Ein cyfeiriad e-bost ar gyfer ceisiadau trwy e-bost: