Paratowch gynllun llifogydd ar gyfer eich busnes

Paratoi cynllun llifogydd a’i roi yn ei le yw’r peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud er mwyn paratoi eich busnes am lifogydd.

Mae cynllun llifogydd yn ddogfen ysgrifenedig sy’n amlinellu sut bydd eich busnes yn ymateb i lifogydd.

Dylai gynnwys:

  • Rhestr o gysylltiadau pwysig, gan gynnwys Llinell Llifogydd 0845 988 1188, gwasanaethau adeiladu, cyflenwyr a chysylltiadau ymgilio ar gyfer staff.
  • Disgrifiad  neu fap yn dangos lleoliadau eiddo allweddol, deunyddiau gwarchodol a phwyntiau diffodd gwasanaethau.
  • Strategaethau sylfaenol er mwyn diogelu eiddo, atal toriad mewn busnes a helpu adferiad.
  • Rhestrau gwirio trefnau y gall y staff gael gafael arnynt yn gyflym yn ystod llifogydd.

Os yw llifogydd ar fin dod, eich prif flaenoriaeth yw sicrhau fod eich staff yn ddiogel.

Dylech adolygu a diweddaru eich cynllun bob blwyddyn.

Ymunwch â’r drafodaeth

Cymuned ar Facebook yw Flood Group UK ar gyfer pobl sy’n cael eu heffeithio gan lifogydd neu’n wynebu perygl llifogydd. Ymunwch nawr am gymorth a newyddion ac i rannu eich profiadau.

Dolenni cysylltiedig