Ein cyngor ar gyfer diwydiant a’r cyhoedd ynghylch eich cyfrifoldebau cyfreithiol ac arfer amgylcheddol da.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn partneriaeth gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon (NIEA) ac Asiantaeth Gwarchod Amgylchedd yr Alban (SEPA), wedi ysgrifennu ystod o Nodiadau Canllaw Atal Llygredd (PPGs).
Mae pob PPG yn rhoi cyngor ynghylch y gyfraith ac arfer amgylcheddol da er mwyn helpu i leihau risgiau i’r amgylchedd o weithgareddau busnes. Mae PPGs:
- yn cael eu defnyddio gan ein staff i helpu cwsmeriaid pan fyddwn ni’n ymweld â busnesau a phan fyddwn yn ateb cwestiynau;
- yn darparu cyngor cydymffurfio technegol a chyfreithiol i’r funud er mwyn helpu i gyflawni arfer amgylcheddol da yn gyson;
- yn gosod allan ein safbwynt cenedlaethol ar ystod o weithgareddau;
- yn cael eu defnyddio er mwyn cefnogi cydymffurfio ag amodau caniatadau.
Rydym wedi ysgrifennu nodiadau gwybodaeth dechnegol eraill y gellir cyfeirio’n gyflym atynt ar amrediad o bynciau, gan gynnwys storio a defnyddio Toddiannau lleihau allyriadau (er enghraifft AdBlue) a glanhau cynwysyddion gwastraff ar olwynion.
Caffael copïau o PPGs
Gallwch lawrlwytho copïau PDF o’n cyfarwyddyd o’r cysylltau isod.
Gallwch archebu copïau ar bapur o’r rhan fwyaf o PPGs, os ydynt ar gael, yn un o’r dulliau canlynol:
Dylech wirio ein fersiynau ar-lein yn rheolaidd er mwyn sicrhau fod gennych y copi diweddaraf.
Diweddariadau cyfarwyddyd
Wrth i ni adolygu a diweddaru ein cyfarwyddyd byddwn yn ymgynghori’n eang er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni anghenion darllenwyr .Mae gwybodaeth ynghylch ein hymgynghoriadau cyfredol ar gael ar-lein.
Croesawn adborth ynghylch y canllawiau hyn hyd yn oed pan nad ydym yn eu hadolygu. Mae croeso i chi anfon e-bost atom os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau er mwyn eu gwella:
Rydym wedi newid trefn ein cyfarwyddyd ar y dudalen hon er mwyn iddo ddilyn y gweithgareddau yn rhestr wirio 10 pwynt A yw eich safle chi’n iawn? ac yn y ddogfen Mae’n Talu i Atal Llygredd.
Cyfarwyddyd ynghylch arfer amgylcheddol da cyffredinol
Cyfarwyddyd ar gyfer storio a thrafod defnyddiau a chynhyrchion
Gweler hefyd:
- Cod Gwarchod Dŵr Daear Defra: Gorsafoedd petrol a chyfleusterau dosbarthu tanwydd eraill sy’n cynnwys tanciau storio dan y ddaear
- ’Gwybodaeth dechnegol ynghylch toddiannau syn lleihau allyriadau (er enghraifft AdBlue), Ionawr 2011 (PDF, 39KB)
Gwybodaeth i’ch helpu i storio a defnyddio toddiannau lleihau allyriadau (er enghraifft, AdBlue) yn ddiogel, fel nad ydynt yn difrodi’r amgylchedd.
- Gosod, digomisiynu a thynnu allan tanciau storio dan y ddaear: PPG 27, Gorffennaf 2007 (PDF, 90KB)
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn rhychwantu pob tanc storio dan y ddaear (USTs), gan gynnwys y rheiny sy’n cynnwys petrolewm, disel, olew tanwydd, tanwydd awyrennau, olew gwastraff, olew gwresogi domestig a defnyddiau eraill a fedrent fod yn llygrol fel toddyddion organig. Adolygir y PPG hwn o bryd. Mae'n agored i ymgynghoriad cyhoeddus hyd at 27 Mawrth 2012. Byydwch gystal ag ymweld â’n tudalen ymgynghori ar-lein ermwyn canfod mwy ac am fanylion ynghylch sut i anfon atebion i'r ymgynghoriad.
- Gosod, digomisiynu a thynnu allan tanciau storio dan y ddarai: PPG 27 - ymgynghoriad
Gweler hefyd:
Cyfarwyddyd ar gyfer rheoli eich gwastraff
Cyfarwyddyd ar gyfer draeniad safle, ymdrin â charthion ac elifion masnach
- Defnyddio a dylunio gwahanyddion olew mewn systemau draenio dŵr wyneb: PPG 3, Ebrill 2006 (PDF, 76KB)
I’ch helpu i benderfynu p’un ai ydych angen gwahanydd olew ar eich safle ac, os felly, pa faint a math o wahanydd sy’n addas. Mae’r gwahanyddion a restrir yn y ddogfen isod wedi bodloni’r prawf math o berfformiad yn unol â Chymal 8.3.3 y Safon Ewropeaidd ar gyfer Systemau Gwahanydd, BS EN 858-1:2002:
- Gwneuthurwyr gwahanyddion olew Fersiwn 11, Awst 2010 (PDF, 71KB)
- Trin a gwaredu carthion ble nad oes carthffos fudr ar gael: PPG 4, Gorffennaf 2006 (PDF, 244KB)
I’ch helpu i ddethol y dewis gwaredu carthion cywir. Mae’r PPG hwn yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y dulliau trin a gwaredu sydd ar gael, gofynion cynnal a chadw a chyfreithiol.
Adolygir y PPG hwn ar hyn o bryd. Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar 14 Chwefror 2010. Gobeithiwn bydd fersiwn newydd o’r cyfarwyddyd ar gael yn ystod 2012.
- Trin a gwaredu carthion preifat: PPG 4 - ymgynghoriad (PDF, 404KB)
- Golchi a glanhau cerbydau: PPG 13, Mawrth 2007 (PDF, 175KB)
Cyngor i’ch helpu i warchod yr amgylchedd pan fyddwch yn golchi cerbydau trwy ddefnyddio systemau golchi awtomatig, glanhawyr pwysedd uchel neu ager a golchi â llaw.
- Glanhau cynwysyddion gwastraff ar olwynion, Rhagfyr 2011 (PDF, 44KB)
Gwybodaeth er mwyn helpu busnesau a gweithredwyr glanhau cynwysyddion gwastraff ar olwynion gydymffurfio â rheolau amgylchedd a gweithio heb wneud niwed i’r amgylchedd.
Cyfarwyddyd i’ch helpu i gynllunio er mwyn ymdrin â damweiniau ac argyfyngau
- Cynllunio ymateb i ddigwyddiad o lygredd: PPG 21, Mawrth 2009 (PDF, 318KB)
Canllaw arfer da i’ch helpu i lunio cynllun ymateb i ddigwyddiad ar gyfer eich safle er mwyn ymdrin â damweiniau, colledion a thanau. Bydd defnyddio’r cyfarwyddyd hwn yn eich helpu i warchod yr amgylchedd.
- Ymdrin â Cholledion: PPG 22, Ebrill 2011 (PDF, 553KB)
Canllaw arfer da i’ch helpu i gynllunio sut byddwch yn ymateb i golled ar eich safle neu os ydych yn cludo defnyddiau. Mae’n cynnwys gwybodaeth ynghylch yr hierarchaeth rheoli llygredd a dewisiadau yng nghyswllt offer rheoli llygredd.
- Cynhyrchion glanhau olew a’u cymhwysiad yng Nghymru a Lloegr (PDF, 115KB)
- Rheoli dŵr tân a cholledion mawr: PPG 18, Mehefin 2000 (PDF, 131KB)
I’ch helpu i ganfod offer a thechnegau sydd ar gael er mwyn atal difrod i gyflenwadau ac adnoddau dŵr a achosir gan danau a cholledion mawr. Adolygir y cyfarwyddyd hwn yn 2011/12.
- Llosgi dan reolaeth: PPG 28, Gorffennaf 2007 (PDF, 240KB)
Bydd y cyfarwyddyd hwn yn eich helpu i benderfynu pryd a sut i ddefnyddio llosgi dan reolaeth fel rhan o strategaeth ymladd tân er mwyn atal neu leihau difrod i’r amgylchedd.
Cyfarwyddyd ar gyfer busnesau penodol
Lawrlwytho’r cyfarwyddyd hwn:
Fel gyda phob PDF mawr bydd y cyfarwyddyd hwn yn lawrlwytho ac yn gweithio’n gyflymach os ydych:
- Yn ei lawrlwytho trwy ddefnyddio cysylltiad rhyngrwyd cyflym, er enghraifft, ei lawrlwytho a’i gadw pan rydych mewn swyddfa, yn hytrach na thrwy ddefnyddio mynediad o bell, fel 3G.
- Aros i’r cyfarwyddyd lawrlwytho’n llwyr ac yna’i gadw ar eich gyriant caled neu ffon gof, yn hytrach na cheisio’i agor a’i ddefnyddio cyn ei gadw.
- Sicrhewch fod gennych fersiwn i’r funud o Internet Explorer ac Adobe Reader/Writer.
Defnyddio’r cyfarwyddyd hwn:
Gallwch deipio’n uniongyrchol i mewn i’r rhestrau gwirio er mwyn cofnodi gweithredoedd a chyfeiriadau. Os oes gennych Adobe Writer yna gallwch gadw unrhyw newidiadau rydych yn eu gwneud. Os oes gennych Adobe Reader gallwch brintio’ch newidiadau’n unig.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, mae croeso i chi gysylltu â’n Canolfan Genedlaethol Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 03708 506 506 (dydd Llun i ddydd Gwener 8yb-6yp).
Rydym wedi llunio canllawiau ychwanegol ar ddelio â dŵr golchi offer concrid ar safleoedd adeiladu
Nodiadau Gwybodaeth Dechnegol Asiantaeth yr Amgylchedd
- Atal llygredd: Storio a defnyddio cynhyrchion gwrthrewi’n ddiogel (cyhoeddwyd Rhagfyr 2010) (PDF, 72KB)
Cyngor a chyfarwyddyd ynghylch storio a defnyddio cynhyrchion gwrthrewi’n ddiogel ynghyd â’u heffeithiau posibl ar yr amgylchedd.
- Atal llygredd: Rheoli meysydd awyr (diweddarwyd Ebrill 2011) (PDF, 63KB)
Cyngor er mwyn gwarchod yr amgylchedd rhag gweithgareddau cyffredin mewn meysydd awyr preifat, masnachol a milwrol.
- Atal llygredd o weithfeydd trin dŵr yfed a rhwydweithiau dosbarthu (PDF, 10KB)
Cyngor er mwyn gwarchod dyfroedd wyneb a dŵr daear rhag gweithgareddau mewn gweithfeydd trin dŵr a rhwydweithiau dosbarthu.
- Atal llygredd: biblinellau mawr (PDF, 60KB)
Cyngor er mwyn gwarchod yr amgylchedd rhag adeiladu a gweithredu piblinellau mawr.
- Atal llygredd: Gwybodaeth dechnegol ynghylch toddiannau syn lleihau allyriadau (er enghraifft AdBlue), Ionawr 2011 (PDF, 39KB)
Gwybodaeth i'ch helpu i storio a defnyddio toddiannau lleihau allyriadau (er enghraifft, AdBlue) yn ddiogel, fel nad ydynt yn difrodi'r amgylchedd.
- Ata: llygredd: Glanhau cynwysyddion gwastraff ar olwynion, Rhagfyr 2011 (PDF, 44KB)
Gywbodaeth er mwyn helpu busnesau a gweithredwyr glanhau cynwysyddion gwastraff ar olwynion gydymffurfio a rheolau amgylchedd a gweithio heb wneud niwed i'r amgylchedd.
Dywedwch eich barn wrthym
Croesawn adborth ynghylch y cyfarwyddyd ar gyfer y pynciau hyn. Mae croeso i chi anfon e-bost i ni os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ar gyfer cyfarwyddyd ychwanegol y gallem ystyried cyfeirio sylw pobl ato:
Cyfarwyddyd a ddiddymwyd a gwybodaeth bellach ynghylch atal llygredd
Gwybodaeth ynghylch cyfarwyddyd rydym wedi’i ddiddymu, a ffynonellau amgen o wybodaeth atal llygredd: