How we determine our charges

Explains the building blocks we use in setting charges, including Government guidance, general principles and the consultation and approval process.

Golwg sydyn ar sut rydym yn cael ein hariannu, sail ddeddfwriaethol ein taliadau a chefndir y broses o bennu taliadau. Mae hyn yn cynnwys canllawiau’r Llywodraeth, egwyddorion cyffredinol a’n proses ymgynghori a chymeradwyo.
Wrth bennu ein taliadau rydym yn cael ein rheoli gan yr egwyddorion canlynol i sicrhau ein bod yn codi tâl teg:
Adennill costau
Mae Adran 42(3) Deddf yr Amgylchedd 1995 yn nodi bod yn rhaid i ni adennill y costau a’r treuliau refeniw a chyfalaf sy’n dod i’n rhan wrth gyflawni ein swyddogaethau trwy ein cynlluniau codi tâl. Mae hyn yn seiliedig ar y gweithgareddau sydd, ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol, yn berthnasol i ganiatâd a thrwyddedau amgylcheddol.
O ganlyniad, mae’n rhaid i ni adennill yr holl gostau sy’n gysylltiedig â chyhoeddi, rheoleiddio a monitro caniatâd a thrwyddedau amgylcheddol. Mae hyn yn amrywio o gostau cyflogi staff rheoleiddio i’r gwasanaethau sydd eu hangen i’w cefnogi fel:
• llety
• gwasanaethau swyddfa
• TG
• rheoli prosesau 
• cyllid 
• personél.
Wrth nodi’r costau hyn, mae’n rhaid i ni ufuddhau i ganllawiau Rheoli Arian Cyhoeddus Trysorlys Ei Mawrhydi, yn enwedig pennod 6.
Natur y costau
Rydym yn ceisio sicrhau bod ein taliadau yn adlewyrchiad teg o’r gost o reoleiddio caniatâd neu drwydded. Felly, rydym yn defnyddio Opra (Operational Risk Appraisal), sef Arfarnu Risgiau Gweithredol, wrth gyfrifo taliadau ein cynllun mwyaf,  Trwyddedu Amgylcheddol.
Mae Opra yn creu proffil risg ar gyfer gweithredwr sy’n cael ei ddefnyddio gennym i benderfynu faint o ymdrech sydd ei hangen i reoleiddio safle. Mae’n ystyried amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys perygl amgylcheddol y gwaith a pherfformiad y gweithredwr.
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i bennu’r taliadau sy’n ddyledus gan bob gweithredwr er mwyn adennill ein costau. Mae Opra yn ein galluogi i ganolbwyntio ein hadnoddau ar weithgareddau sy’n creu’r risgiau mwyaf i’r amgylchedd a chodi tâl yn unol â hynny.
Priodoli costau
Mae’n rhaid i’n costau gael eu priodoli i gynlluniau codi tâl unigol yn yr un modd ag incwm (gweler "Neilltuo" isod).
Gan fod sawl gweithgaredd yn gallu bod yn berthnasol i fwy nag un cynllun, rydym yn defnyddio set o egwyddorion priodoli i ddyrannu costau ar gyfer cynlluniau unigol ar y sail fwyaf priodol. Mae hyn yn dibynnu ar natur y gweithgaredd. 
Dyma’r egwyddorion cyffredinol sy’n cael eu defnyddio gennym i benderfynu a allwn godi tâl am gyflawni gweithgaredd:
• a ydym yn cyflawni’r gweithgaredd o ganlyniad uniongyrchol neu anuniongyrchol i ganiatâd neu drwydded berthnasol (e.e. monitro cydymffurfiaeth)?
• a fydd rhywun sydd â thrwydded yn elwa ar y gweithgaredd (e.e. trwy waith ymchwil a datblygu perthnasol)?
Rydym yn codi tâl uniongyrchol ar gynlluniau unigol lle bo hynny’n bosibl. Er enghraifft, bydd costau staff sy’n rhan o’r broses o benderfynu ar gais am drwydded yn cael eu codi ar y cynllun priodol ar sail gwybodaeth cofnodi amser. Pan na fydd modd nodi’n glir bod gweithgareddau yn perthyn i gynllun penodol, priodolir y costau yn unol ag egwyddorion manwl.
Neilltuo
O dan Adran 42(3) Deddf yr Amgylchedd 1995, mae’n rhaid i ni sicrhau bod incwm o bob cynllun codi tâl yn cael ei wario ar weithgareddau rheoleiddio cysylltiedig yn unig.
Mae’r Memorandwm Ariannol, sy’n cael ei ddefnyddio gan Defra i oruchwylio ein gweithgareddau ariannol, hefyd yn nodi bod rhaid defnyddio unrhyw incwm a godir ar gyfer y gweithgaredd perthnasol yn unig.
Mae hyn yn golygu nad oes modd defnyddio taliadau sy’n berthnasol i un fath o drwydded i dalu am weithgareddau sy’n berthnasol i drwydded o fath wahanol (er enghraifft, ni ellir defnyddio incwm o daliadau am drwyddedau echdynnu dŵr i ariannu gweithgareddau rheoleiddio Trwyddedu Amgylcheddol).
O ganlyniad, rydym yn cofnodi incwm a gwariant ar wahân ar gyfer pob cynllun lle codir tâl gan ddefnyddio’r ffigurau fel sail i bennu taliadau.
Balansau
Mae’r Memorandwm Ariannol hefyd yn nodi bod rhaid i ni ystyried incwm dros ben a diffygion ariannol cynllun codi tâl wrth bennu taliadau’r flwyddyn ariannol ddilynol.
Noder:
• mae cyfraddau taliadau yn cael eu pennu ar sail rhagamcanion a wneir sawl mis cyn dechrau blwyddyn ariannol newydd  
• mae’r cyfrifiad yn cymryd yn ganiataol y bydd yr incwm a’r gwariant yn gyfartal, ar ôl gwneud addasiad ar gyfer unrhyw falans a ddygwyd ymlaen o’r flwyddyn flaenorol 
• mae’n bosibl na fydd yr incwm gwirioneddol yn cyfateb i’r gwariant a bydd angen dwyn balans ymlaen i’r flwyddyn nesaf.