Adennill costau digwyddiadau llygredd

Mae’n rhaid i ni adennill costau digwyddiadau llygredd.

Mae gennym ddyletswydd i ymchwilio i ddigwyddiadau llygredd dŵr a glanhau ar ôl digwyddiadau o’r fath. Er mwyn talu am y gwaith hwn, mae’n rhaid i ni adennill y costau a ddaeth i’n rhan trwy godi tâl ar y gweithredwr sy’n gyfrifol.

Costau i’w hadennill

Mae’r costau i’w hadennill yn cynnwys:

  • olrhain y tarddiad
  • asesu effeithiau posibl
  • gwaith adfer/ataliol brys
  • deunyddiau 
  • samplau
  • goruchwylio rheolaidd
  • costau arbenigol ychwanegol eraill e.e. ailstocio pysgod.

Y costau na ellir eu hadennill yw:

  • unrhyw waith ymchwilio ar ôl dod o hyd i darddiad y llygredd e.e. ymweliadau dilynol â safle’r digwyddiad i wirio mesurau adfer neu fonitro’r effaith ar ddyfroedd a reolir 
  • unrhyw waith sy’n gysylltiedig â pharatoi ffeiliau achos ar gyfer camau gorfodi.

Strwythur y costau

Codir tâl fesul awr ar gyfer y rhan fwyaf o’r costau uchod. Mae taliadau eithriadol (e.e. defnyddio contractwyr arbenigol i lanhau ar ôl digwyddiad neu ofynion samplo ychwanegol)  yn cael eu codi ar ben y gyfradd fesul awr.

Taliadau 2012/13 a 2013/14

Tâl fesul awr: £84

Codir isafswm tâl fesul awr (h.y. £84). Codir taliadau pellach fesul hanner awr ac mae anfonebau yn seiliedig ar y data a gofnodir ar y System Cofnodi Digwyddiadau Cenedlaethol.

Gwybodaeth bellach