Cyfleusterau Trin Wedi’u Hawdurdodi

Cyfleusterau wedi’u hawdurdodi yw ATFs sy’n derbyn cerbydau modur gwastraff, ac sy’n gallu cydymffurfio â gofynion y rheoliadau ELV ac EP.

Bu’r Rhaglen Arloesedd Troseddau Gwastraff yn gweithio gyda’r diwydiant a chymdeithasau masnach er mwyn gwella’r cynhorthwy i fusnesau ATF cyfreithlon. O ganlyniad cynhyrchwyd cyfarwyddyd didrafferth er mwyn helpu ATFs ar gyfer ELVs i gydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol.
Mae’r Cyfarwyddyd yn gosod allan y gofynion ar gyfer ATFs i ELVs a deddfwriaeth berthnasol arall.

Bydd y Cyfarwyddyd yn helpu i gynnal safonau a’i gwneud yn haws ac yn gyflymach i gydymffurfio, gan arbed amser ac arian wrth warchod yr amgylchedd.

Tystysgrifau dinistrio

Un o ofynion y rheoliadau Cerbydau Diwedd Oes (ELVs) yw bod daliwr olaf unrhyw gerbyd a gaiff ei ddadlygru/ei dynnu’n ddarnau yn y dosbarthiadau canlynol yn derbyn Tystysgrif Dinistrio (CoD):

  • cerbydau sy’n cario teithwyr hyd at 3,500kg
  • cerbydau nwyddau ysgafn hyd at 3,500kg
  • cerbydau modur â thair olwyn (gan hepgor treisiclau)

Dim ond Cyfleuster Trin Wedi’i Awdurdodi (ATF) all roi CoD. Mae’r CoD yn sicrhau y caiff y cerbyd ei drin a’i waredu’n gywir a’i fod yn cael ei ddadgofrestru gan y DVLA.

Ni roddir mynediad awtomatig i ATFs i’r system CoD. Trefnir mynediad gan y DVLA. Bydd y DVLA yn cysylltu â safle i roi’r broses ymgeisio ar waith ar ôl i ni roi gwybod iddynt fod y safle wedi derbyn caniatâd.

Rhestr y gofrestr gyhoeddus o gyfleusterau trin wedi’u hawdurdodi

Diweddarir y rhestr hon yn fisol a’i hanfon i’r DVLA fel y gall safleoedd newydd gaffael mynediad i’w system CoD ac mae’r broses o dynnu cerbydau wedi’u sgrapio o’u cronfa ddata cofrestru yn awtomatig.

Mae llawer o safleoedd yn rhoi gwelliannau ar waith a phan gwblheir y rhain cânt eu hychwanegu at y rhestr ac anfonir diweddariad i’r DVLA. O Ionawr 2012, mae 1,672 o gyfleusterau yn cydymffurfio yn awr â’r gofynion dadlygru ELV.