O 6 Ebrill 2010 rydym yn rheoleiddio'r gwaith o waredu gwastraff ymbelydrol o safleoedd niwclear o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 (EPR).
Rydym hefyd yn rheoleiddio agweddau penodol ar gadw a defnyddio ffynonellau ymbelydrol ar safleoedd niwclear. Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Deddf Sylweddau Ymbelydrol 1963 (RSA93). Er cyfleuster gelwir hyn yn Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol.
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn newid y gofynion cyfreithiol, Polisïau'r Llywodraeth neu'r gofynion technegol mewn perthynas â rheoleiddio sylweddau ymbelydrol ar safleoedd niwclear. Rydym wedi cynhyrchu rhai canllawiau newydd ar gyfer trwyddedu amgylcheddol ac wedi diweddaru rhywfaint o'r canllawiau sy'n bodoli eisoes. Mae'r canllawiau eraill yn parhau i fod yn ddilys heblaw am fân newidiadau i'r derminoleg yn dilyn y newid i drwyddedu amgylcheddol.
Dysgwch a oes angen trwydded amgylcheddol ar eich cyfleuster ar gyfer gweithgareddau sylweddau ymbelydrol.
Dysgwch sut i amrywio, trosglwyddo neu ildio eich trwydded.
Canllawiau i'ch helpu i gwblhau eich cais a hefyd i'ch helpu i gydymffurfio ag amodau eich trwydded amgylcheddol.
Mae angen i chi gwblhau'r ffurflen gais os ydych am wneud cais am drwydded newydd neu os ydych am amrywio, trosglwyddo neu ildio eich trwydded.