Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am ein gwaith o reoleiddio'r diwydiant niwclear.
Mae diwydiant cymhleth yn gysylltiedig â gorsafoedd ynni niwclear er mwyn rheoli a chefnogi eu gwaith. Mae'n cynnwys busnesau sy'n cynhyrchu tanwydd ar gyfer gorsafoedd ynni a busnesau sy'n rheoli'r gwastraff ymbelydrol a gynhyrchir ganddynt.
Yn ogystal â gorsafoedd ynni mae gennym adweithyddion niwclear sy'n pweru llongau tanfor y Llynges Frenhinol a chaiff rhai arfau niwclear eu gweithgynhyrchu yn y DU hefyd.
Ceir 32 o safleoedd niwclear trwyddedig yng Nghymru a Lloegr. Caiff y safleoedd hyn eu harchwilio gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (sef un o asiantaethau'r HSE) sy'n gyfrifol am reoleiddio pob agwedd ar ddiogelwch niwclear ar y safleoedd hynny.
Ein rôl a'n cyfrifoldebau
Rydym yn goruchwylio sut mae'r 32 o safleoedd hyn yn gwaredu eu gwastraff niwclear drwy roi trwyddedau safle i'r gweithredwyr sy'n rhedeg y safleoedd hynny.
Mae'n rhaid i weithredwyr y safleoedd hyn gael trwydded gennym i waredu gwastraff. Mae'r trwyddedau hyn yn pennu terfynau ac amodau ar faint o wastraff y gellir gwaredu ag ef a'r ffordd y byddant yn gwaredu'r gwastraff hwnnw ac maent yn cwmpasu pob dull o waredu gwastraff niwclear yn cynnwys ei waredu i'r aer ac i ddŵr, a throsglwyddo gwastraff i'w losgi neu ei waredu ar dir.
Rydym hefyd yn gyfrifol am gadw golwg ar safleoedd er mwyn sicrhau nad ydynt yn mynd y tu hwnt i'w terfynau penodedig a sicrhau eu bod yn rhyddhau cyn lleied o wastraff ymbelydrol â phosibl i'r amgylchedd.
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010 (EPR2010)
Cyflwynwyd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol newydd ar 6 Ebrill 2010. Maent yn diddymu Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol 1993 yng Nghymru a Lloegr yn unig. Ni fydd y trefniadau presennol yn newid yn yr Alban na Gogledd Iwerddon.
Datganiad Asiantaethau yr Amgylchedd ar Gynghorwyr Gwastraff Ymbelydrol a chanllawiau cysylltiedig
Mae Cynghorwyr Gwastraff Ymbelydrol yn arbenigwyr ym maes gwaredu gwastraff ymbelydrol a diogelu rhag ymbelydredd amgylcheddol sydd wedi dangos cymhwysedd yn y maes llafur Cynghorydd Gwastraff Ymbelydrol.
Mae'n ofynnol o dan gyfraith Ewropeaidd i bobl sy'n cadw neu'n defnyddio deunydd ymbelydrol, neu sy'n cronni neu'n gwaredu gwastraff ymbelydrol, i benodi cynghorwyr, a elwir yn "arbenigwyr cymwys", i'w cynghori ar ddiogelwch radiolegol. Yn y DU gelwir yr arbenigwr cymwys ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol a diogelwch ymbelydredd amgylcheddol yn 'Gynghorydd Gwastraff Ymbelydrol'.
Mae asiantaethau'r amgylchedd yn y DU - sef ni, ynghyd ag Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yn yr Alban (SEPA) ac Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon (NIEA), yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sydd â chaniatâd neu awdurdod i gronni neu waredu gwastraff ymbelydrol i benodi Cynghorydd Gwastraff Ymbelydrol. Rydym bellach wedi nodi'r canlynol:
- sut y byddwn yn cydymffurfio â'n cyfrifoldebau cyfreithiol sy'n ymwneud ag arbenigwyr cymwys fel sy'n ofynnol o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd
- ein disgwyliadau o ran Cynghorwyr Gwastraff Ymbelydrol
- a sut y caiff cynllun ledled y DU ei weithredu i gydnabod Cynghorwyr Gwastraff Ymbelydrol.
- Darllen y datganiad a'r canllawiau