Digwyddiadau ac ymgynghoriadau

Dysgwch fwy am sut rydym yn ymgynghori â'r cyhoedd a grwpiau eraill.

Ymgynghoriad

Rydym yn adolygu'r tystysgrifau a roddwyd gennym i safleoedd bob pedair i bum mlynedd. Rydym yn ymgynghori â'r cyhoedd a llawer o sefydliadau eraill, megis cynghorau lleol ac awdurdodau iechyd, er mwyn ceisio'u barn wrth i ni wneud hyn.

Rydym hefyd yn ymgynghori ag ystod eang o grwpiau pan fydd safle niwclear yn gwneud cais am drwydded newydd. Fel arfer bydd cyfnodau ymgynghori yn parhau am dri mis ac rydym yn eu hysbysebu mewn papurau newydd lleol.

Rydym yn anfon gwybodaeth i'r grwpiau gwahanol y tybiwn y bydd ganddynt ddiddordeb, yn ogystal ag anfon gwybodaeth i lyfrgelloedd cyhoeddus, ar ddechrau'r cyfnod ymgynghori. Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys copi o'n trwydded drafft, gyda'n sylwadau ynglŷn â rheolau newydd arfaethedig ar gyfer y safle. Yn ystod yr ymgynghoriad gallwn ddewis cynnal cyfarfodydd cyhoeddus neu weithdai er mwyn trafod y materion gwahanol y gallai'r cyhoedd fod am eu trafod.

Byddwn yn gweithio gyda phobl leol mor gynnar â phosibl yn y broses, er mwyn deall eu pryderon, eu diddordebau a'u blaenoriaethau. Rydym o'r farn y bydd ein penderfyniadau'n gadarnach o ganlyniad i'n gwaith ymgynghori.

Ymgynghoriadau presennol

Rydym yn gwahodd sylwadau ar geisiadau a gyflwynwyd gan NNB Generation Company Limited (NNB GenCo), sef cwmni adeiladu gorsafoedd ynni niwclear newydd EDF Energy, ar gyfer ei orsaf ynni niwclear newydd arfaethedig yn Hinkley Point.

Ymgynghoriadau blaenorol

Daeth i ben ar 18 Hydref 2010

Daeth i ben 14 Tachwedd 2008

Daeth i ben 30 Medi 2008

Daeth i ben 1 Medi 2008

Daeth i ben 1 Medi 2008

  • Amrywio Awdurdodiad RSA93 ar gyfer Magnox Electric Ltd. yng Ngorsaf Ynni Oldbury, De Swydd Gaerloyw. Daeth i ben 12 Ebrill 2007.
  • Adolygiad British Energy i ganiatáu gwaredu gwastraff ymbelydrol o'i chwe gorsaf ynni niwclear yn Lloegr. Daeth i ben 7 Gorffennaf 2006.

Rhagor o wybodaeth