Adeiladu

Mae gan y diwydiant adeiladu gyfraniad pwysig i’w wneud wrth wella effeithlonrwydd dŵr ac ynni'r adeiladau y mae’n eu codi.

Rydym yn awyddus i weithio gyda’r diwydiant adeiladu o ddechrau prosiectau.  Gallwn roi cyngor a gwybodaeth amgylcheddol pwysig, a all arbed arian ac amser yn nes ymlaen.

Nid ydym yn rheoleiddio’r diwydiant adeiladu dan Atal a Rheoli Llygredd.  Ond rydym yn chwilio am welliannau o ran effeithlonrwydd adnoddau. Yn arbennig mewn:

  • lleihau swm y gwastraff – gan gynnwys y gwastraff peryglus y mae’n ei gynhyrchu, a

  • chynyddu faint o wastraff sy’n cael ei ail ddefnyddio

Fel busnes mae gennym hefyd Ddyletswydd Gofal i gael gwared ar eich gwastraff yn gyfreithlon a diogel.  Mae hyn yn cynnwys tir halogedig i’w ddymchwel a gwastraff tyllu safle.