Materion amgylcheddol
Beth yw’r rhain? Mynnwch wybod mwy am sut y gallent effeithio ar eich safle.
Mae'r adran hon yn amlinellu'r materion amgylcheddol a allai effeithio ar eich safle, gan roi cyngor ac arweiniad ac mae'n cynnwys:
Mae’r adran hon yn cynnwys golwg gyffredinol ar y materion a allai effeithio ar eich safle a manylion am pryd y dylech gysylltu â ni yn ystod y broses ddatblygu.
Mae’n rhaid i’ch datblygiad fod yn ddiogel rhag llifogydd ac ni ddylai gynyddu’r perygl o lifogydd mewn man arall. Gall gwneud lle i ddŵr ddarparu gofod gwyrdd gwerthfawr, gan ychwanegu gwerth at eich datblygiad.
Gall defnyddio opsiynau draenio cynaliadwy ar eich safle leihau llygredd a lleihau’r perygl o lifogydd. Gallant arbed arian i chi o’u cymharu â’r technegau draenio mwy traddodiadol.
Gall offer sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon gael eu gosod mewn cartrefi ac mewn swyddfeydd am ychydig iawn neu ddim cost ychwanegol. Mewn adeilad sydd â mesuryddion byddant hyd yn oed yn arbed arian o ran costau rhedeg.
Gall darparu mannau gwyrdd ac annog bywyd gwyllt fod yn ased i’ch datblygiad. Mae gwerth eiddo sy’n edrych yn uniongyrchol dros fannau gwyrdd o ansawdd uchel hyd at saith y cant yn fwy nag eiddo tebyg sydd heb y golygfeydd hynny.
Bydd cynllunio ymlaen llaw yn lleihau’r posibilrwydd o achosi llygredd (ac felly’r perygl o gael eich erlyn).
Gallwch arbed arian trwy ailddefnyddio defnyddiau a lleihau faint o wastraff rydych chi’n ei gynhyrchu wrth adeiladu a dymchwel.
Mae datblygu tir llwyd yn gyfle i ailgylchu tir, glanhau safleoedd halogedig a chynorthwyo ag adfywio amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.
Mae’r rhan fwyaf o berchenogion tai’n barod i dalu mwy am gartrefi sydd â graddfa eco-gartref dda. Gall mesurau effeithlonrwydd adnoddau gael eu gosod am ychydig iawn o gost ychwanegol, neu ddim, a byddant yn arbed costau cynnal.
Mewn datblygiad, rydym am weld cyfleusterau a chynlluniau sy’n annog pobl i ddefnyddio eu hamgylchedd lleol er mwyn ymarfer ac ymlacio. Gall gynnig mynediad at yr afon ac at fannau gwyrdd eraill gynyddu gwerth eich safle.
Mynnwch wybod am dechnegau SUDS, ymchwil, ein polisi ac arweiniad.