Gall offer sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon gael eu gosod mewn cartrefi ac mewn swyddfeydd am ychydig iawn neu ddim cost ychwanegol. Mewn adeilad sydd â mesuryddion byddant hyd yn oed yn arbed arian o ran costau rhedeg.
Mae llawer gormod o ddatblygiadau'n defnyddio mwy o ddŵr nag y dylent. Gall cymryd camau i arbed dŵr arbed arian i chi a diogelu cyflenwadau.
Gall adeiladu mesurau arbed dŵr i'ch datblygiad wneud llawer i leihau'r galw cyffredinol. Cânt eu hystyried yn bositif gan:
- Asiantaeth yr Amgylchedd
- cwmnïau dŵr, ac
- awdurdodau cynllunio.
Targedau effeithlonrwydd dŵr
Bydd y Cod Cartrefi Cynaliadwy newydd yn cyflwyno amrywiol dargedau ar gyfer effeithlonrwydd dŵr. Mae'r targedau hyn yn caniatáu prynwyr i gymharu eiddo am ba mor effeithlon y maent wrth ddefnyddio dŵr.
Yn Llundain, mae'r Maer wedi pennu safon effeithlonrwydd dŵr gofynnol ar gyfer datblygiadau preswyl newydd, sef 110 litr y pen, y diwrnod. Mae ein hymchwil ein hunain wedi dangos bod y safon hwn yn gallu cael ei gyflawni mewn adeiladau newydd heb unrhyw gost ychwanegol.
Technegau i arbed dŵr
Gallwch arbed dŵr yn eich datblygiad trwy osod neu trwy ddefnyddio:
- offer a gosodiadau sy'n defnyddio dŵr yn effeithlon, fel peiriannau golchi 'gradd A', tapiau a chawodydd llif isel neu doiledau fflysio deuol
- systemau canfod gollyngiadau ar gyfer prif gyflenwadau
- systemau casglu dŵr glaw a'i ailddefnyddio
- tirlunio sy'n gwrthsefyll sychder.
Gall hyd yn oed fesurau syml helpu. Er enghraifft, bydd lleihau hyd pibwaith dŵr poeth yn golygu na fydd rhaid i bobl 'redeg' y dŵr.
Cael caniatâd
Gan fod cyflenwadau dŵr mor werthfawr, mae'n hanfodol ein bod yn eu hamddiffyn yn gywir. Rydym yn gwneud hyn drwy system o gydsyniadau.
Mae'n rhaid i chi gysylltu â ni os ydych chi'n debygol o fod yn:
- tynnu dŵr o ffynonellau wyneb neu danddaearol
- tarfu ar lif dŵr neu'n cronni dŵr o gwrs dŵr
- drilio unrhyw ddyfrdyllau o fewn 16m o unrhyw strwythur amddiffyn rhag llifogydd
- gollwng i gwrs dŵr neu i'r tir.
Gall eich datblygiad chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau cyflenwadau yn y dyfodol. Gweithiwch yn agos gyda'r cwmnïau dŵr i gynllunio cyflenwadau newydd ac i ddylunio cartrefi sy'n defnyddio dŵr yn effeithlon.
Cyflenwadau dŵr newydd
Gall cyflwyno cyflenwadau dŵr newydd gymryd cryn dipyn o amser i'w gynllunio ac i ddod â hwnnw ar waith. Os ydych chi eisiau i gwmni (cwmni dŵr fel arfer) gyflenwi dŵr, dylech gydweithio â nhw tra byddwch chi wrthi'n dewis eich safle - peidiwch â chymryd yn ganiataol y gallant ddarparu'r seilwaith dŵr a chyflenwi angenrheidiol i'ch datblygiad.
Cysylltwch â ni i gael gwybodaeth werthfawr am adnoddau dŵr, cwmnïau dŵr, effeithlonrwydd dŵr a materion penodol ynghylch cyflenwi a seilwaith. Gallwn ddangos mapiau i chi o Barthau Gwarchod Ffynonellau Dŵr Daear ac esbonio'r cyfyngiadau posibl ar adeiladu arnynt.