Ffermio sensitif i ddalgylch afon

Mae Ffermio Sensitif i Ddalgylch Afon yn ymagwedd ragweithiol at lygredd gwasgaredig. Trwy leihau ffynonellau amaethyddol o gwasgaredig yn nalgylchoedd afonydd, trwy arferion rheoli tir, gallwn sicrhau bod allyriadau i ddŵr yn cyd-fynd â gofynion ecolegol

Yn Lloegr

Mae’r Fenter Cyflawni Ffermio sy’n Ystyriol o Ddalgylchoedd Lloegr (ECSFDI) yn fenter ar y cyd rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd a Natural England wedi’i hariannu gan Defra ac yn gweithio o fewn 50 o ddalgylchoedd â blaenoriaeth. Mae’n darparu atebion ymarferol a chyngor wedi’i dargedu er mwyn galluogi ffermwyr a rheolwyr tir i weithredu er mwyn gwarchod cyrff dŵr a’r amgylchedd ehangach.

Gallwch ganfod manylion llawn ynghylch yr ECSFDI, gan gynnwys gwybodaeth ar y Cynllun Grantiau Cyfalaf, rhestr lawn o ddalgylchoedd â blaenoriaeth a chysylltiadau â Swyddogion Ffermio sy’n Ystyriol o Ddalgylchoedd (CSFO), ar wefan Defra.

Fel rhan o’r ECSFDI, cynhelir gweithgareddau fel gweithdai, seminarau ac arddangosiadau fferm ar draws Lloegr. Am fanylion ymwelwch â gwefan Natural England.

Yng Nghymru

Rhedir Menter Dalgylchoedd Cymru gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, wedi’i noddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC). Mae’r cynllun yn gweithio mewn chwe dalgylch â blaenoriaeth yng Nghymru ble cafodd llygredd gwasgaredig ei nodi fel bygythiad pwysig i ansawdd dŵr. Y chwe dalgylch yw Cain, Cleddau, Clwyd, Teifi, Wysg a Gwy.

Mae’r fenter yn darparu adnoddau ar gyfer cyd-drefnydd dalgylch un pwrpas, sy’n rhoi cyngor a chyfarwyddyd ymarferol i ffermwyr a rheolwyr tir o fewn y dalgylch. Mae gweithgareddau’n cynnwys gweithdai, seminarau, arddangosiadau ac ymweliadau â ffermydd unigol.

Rhagor o wybodaeth