Mae gwastraff amaethyddol yn unrhyw sylwedd neu beth, o eiddo a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth neu arddwriaeth, y mae’r sawl sy’n ei ddal yn ei daflu, yn bwriadu ei daflu neu mae’n ofynnol iddo ei daflu.
Gwastraff ydyw a gynhyrchir yn benodol gan weithgareddau amaethyddol.
Er enghraifft, ni fyddai gwastraff a ddaeth o siop fferm neu weithfa pecynnu llysiau’n wastraff amaethyddol.
Mae rhai enghreifftiau o wastraff amaethyddol fel a ganlyn:
- cynwysyddion plaleiddiaid gwag;
- hen bilen lapio silwair;
- meddyginiaethau a sylweddau gwaredu llyngyr wedi dyddio;
- teiars wedi’u defnyddio;
- llaeth dros ben.
Ers 2006, bu gwastraff amaethyddol yn ddarostyngedig i’r un rheolau a fu’n berthnasol i sectorau eraill ers blynyddoedd lawer. Ar 15 Mai 2006, daeth llosgi neu dipio gwastraff heb reolaeth ar ffermydd yn anghyfreithlon.
Beth sydd angen i chi ei wneud
Canfyddwch fwy ynghylch cofrestru eithriadau, symud gwastraff, rheolau a rheoliadau yng nghyswllt gwrteithiau a slyrïau, ac ymdrin â gwastraff peryglus ar eich fferm.
Cofrestru eithriadau
Fel rheol, mae angen i unrhyw weithgarwch trin, adennill neu waredu gwastraff gael ei wneud dan Ganiatâd Amgylcheddol. Fodd bynnag, gall rhai gweithgareddau risg isel, ar raddfa fach a llai llygrol gael eu heithrio rhag gorfod cael eu caniatáu.
Gelwir y gweithgareddau hyn yn eithriadau ac mae angen eu cofrestru gydag Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn gwneud gweithgareddau sydd ei gwneud yn ofynnol i gofrestru eithriadau. Er enghraifft:
- llosgi defnydd planhigol;
- defnyddio hen deiars ar bentyrrau silwair;
- taenu llaeth nad yw’n cydweddu â gofynion neu sy’n weddill ar dir.
Mae’r eithriadau’n newid ar 6 Ebrill 2010. Mae’n bwysig eich bod yn canfod sut mae’r newidiadau’n effeithio arnoch chi.
Symud gwastraff
Os ydych yn symud eich gwastraff ei hun, neu daw rhywun i gasglu gwastraff o’ch fferm, mae rheolau sy’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw.
Gwrteithiau a slyrïau
Nid yw gwrteithiau a slyrïau’n wastraff pan ddefnyddir nhw’n uniongyrchol fel gwrteithiwr. Fodd bynnag, mae rheolau a rheoliadau eraill yn berthnasol.
Ymdrin â gwastraff peryglus
Byddwch yn ôl pob tebyg yn cynhyrchu gwastraff peryglus ar eich fferm. Mae rheolau arbennig sy’n rhaid i chi eu dilyn wrth ymdrin â gwastraff peryglus.