Eithriadau

Canfyddwch fwy am eithriadau gwastraff a fedrant fod yn berthnasol i chi.

Beth yw eithriadau?

Mae gweithgareddau sy’n ymwneud â storio, ailgylchu neu waredu gwastraff fel rheol angen Caniatâd Amgylcheddol. Ystyrir fod rhai gweithgareddau, fel defnyddio hen deiars ceir ar bentwr silwair, yn peri risg isel i’r amgylchedd ac maent wedi’u heithrio rhag bod angen caniatâd amgylcheddol. Ar hyn o bryd mae 52 o eithriadau sy’n rhychwantu ystod eang o weithgareddau.

Gall ffermwyr elwa o nifer fawr o’r eithriadau hyn ar gyfer gweithgareddau sy’n ymwneud â gwastraff maent yn ei gynhyrchu ar eu ffermydd. Gan fod bron i bob busnes yn cynhyrchu gwastraffau rydych yn debygol o fod angen cofrestru un eithriad neu fwy, yn arbennig os ydych yn storio, ailgylchu neu waredu gwastraff amaethyddol ar eich fferm. Cysylltwch â ni ar 0845 603 3113 am gyngor a phecyn cofrestru eithriad gwastraff amaethyddol.
Gallwch gofrestru eithriadau gwastraff amaethyddol yn ogystal trwy system Agwedd Fferm Gyfan Defra. Er mwyn canfod mwy ynghylch yr Agwedd Fferm Gyfan ymwelwch â gwefan Defra:

Enghreifftiau o rai gweithgareddau cyffredin wedi’u heithrio a wneir a ffemwydd:
Mae gan bob eithriad a restrir isod ddisgrifiad byr o’r gweithgarwch a rychwantir ganddo. Gweler bob dolen gyswllt am:
 ddisgrifiad llawn o’r eithriad hwnnw; a
 chyfarwyddyd ynghylch beth mae’n ei olygu.
 Eithriad 52 –  storio’r gwastraff dros dro a gynhyrchwyd gennych ar eich fferm.
 Eithriad 21 –  asglodi boncyffion a changhennau neu dorri defnydd planhigion yn fân ar ôl cwympo coed a gwrychoedd.
 Eithriad 12 – compostio torion gwrychoedd a gwastraff cnwd a gynhyrchwyd ar y fferm.
 Eithriad 7 – taenu’r gwastraff wedi’i gompostio a gynhyrchwyd ar y fferm.
 Eithriad 30 -  llosgi defnydd planhigion a geir yn naturiol, gan gynnwys boncyffion a changhennau o goed sydd wedi syrthio neu a gwympwyd, pren heb ei ddrin o drwsio ffensys, torion gwrychoedd, dail a rhisgl.
 Eithriad 37 -  gwaredu gwastraffau meinwe planhigion fel cnydau wedi’u heintio neu sbwylio ar y fferm ble cynhyrchir nhw.
 Eithriad 27 -  byrnu defnydd lapio plastig silwair neu fathru cynwysyddion gwag cyn eu hanfon i’w hadennill neu eu gwaredu.
 Eithriad 47 -  taenu llaeth gwastraff a lastwreiddiwyd ar dir er budd i amaeth neu welliant ecolegol.
 Eithriad 16 -  gwaredu golchion plaleiddiad diberygl mewn biowely.
 Paragraph 13 – malurio concrit a brics ac ati er mwyn gwneud agregad.
 Paragraph 29 – llosgi carcasau anfeiliaid mewn llosgydd bach ar y fferm ble fuont farw.
 Paragraph 36 – taenu sbwriel carthu o glirio ffosydd amaethyddol.
 Paragraph 28 – taenu lludw moch neu ddofednod ar dir yn y fan ble cynhyrchwyd ef.
Mae eithriadau eraill ar gael ond y rhai a restir uchod yw’r prif rai y gallwch fod eu hangen er mwyn rh eoli’r gwastraff rydych yn ei gynhyrchur trwy eich gweithgareddau ffermio.
O bryd i’w gilydd, gallwch ddefnyddio gwastraff na chafodd mo’i gynhyrchu ar fferm, er enghraifft concrit wedi’i falurio a chraidd caled er mwyn adeiladu neu gynnal llwybrau. Nid yw hyn yn wastraff amaethyddol a rhaid cofrestru eithriadau ar gyfer defnyddio gwastraff nad yw’n amaethyddol trwy’r system cofrestru eithriadau cyffredinol:
 Eithriadau gwastraff
Enghreifftiau o eithriadau nad ydynt yn ymwneud â gwastraff amaethyddol:
 Eithriad 15 – defnyddio papur gwastraff wedi’i dorri’n fân fel gwasarn anifeiliaid neu ddefnyddio hen deiars ceir o’r iard sgrap ar gladd silwair
 Eithriad 5 – llosgi gwastraffau penodol fel tanwydd mewn cyfarpar wedi’i eithrio
 Eithriad 6 – Storio llaid carthion cyn ei daenu ar eich caeau
Am wybodaeth bellach ynghylch yr eithriadau hyn a’r ffurflen gais syml ewch i’n tudalen eithriadau:
 Eithriadau gwastraff
Mae’r eithriadau canlynol pan ddefnyddir gwastraffau nad ydynt yn amaethyddol yn eithriadau cymhleth. Mae eithriadau cymhleth yn weithgareddau gwastraff sydd wedi’u heithrio rhag caniatàu ond sy’n rhaid i chi eu gwirio er mwyn sicrhau nad ydynt yn gwneud niwed i’r amgylchedd.
 Eithriad 12 – Compostio gwastraff gwyrdd a gasglir gan y Cyngor
 Eithriad 19 – Defnyddio crafion ffyrdd neu frics a choncrit wedi’i faluro o safle dymchwel er mwyn cynnal llwybrau fferm.
 Eithriad 7 – Taenu llaid papur ar eich tir.
 Eithriad 9 – Adennill, adfer neu wella tir.
Cyn gallwn gofrestru eithriad cymhleth, rhaid i chi ddarparu manylion ynghylch eich gweithgarwch gwastraff ar ffurflen hysbys sy’n benodol ar gyfer yr eithriad hwnnw. Mae’r ffurflen yn gofyn i chi gynnwys data ategol ac mae angen cyfnod o amser arnom i asesu hyn cyn i ni gofrestru’r eithriad.
Rhaid i’r wybodaeth y gofynnwn i chi ei chyflwyno fel rhan o’r asesiad hwn ddangos bod eich cynigion:
 yn cwrdd ag amcanion yr eithriad, ac
 nid ydynt yn achosi llygredd neu wneud niwed i iechyd.
Heblaw am eithriad 12, mae ffïoedd yn gysylltiedig â gwneud cais am eithriad cymhleth ac mae angen adnewyddu rhai ar sail flynyddol. Am wybodaeth bellach ynghylch eithriadau cymhelth a’r ffurflenni cais ymwelwch â’n tudalen Eithriadau Cymhleth:
 Eithriadau cymhleth
Caniatadau amgylcheddol
Os nad yw eich gweithgarwch yn bodloni amodau eithriad yna mae’n debygol o fod angen caniatâd amgylcheddol.
 Canfyddwch wybodaeth bellach ar ganiatadau amgylcheddol