Arfer da

Rydym eisiau cydweithio â ffermwyr llaeth a hyrwyddo arferion ffermio sy’n dda i’r amgylchedd ac i ffermio.

Cynllunio amgylcheddol ar gyfer ffermio llaeth

Rydym wedi bod yn gweithio gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a'r Cyngor Datblygu Llaeth i lunio cynllun amgylcheddol ar gyfer y diwydiant llaeth sydd:

  • yn rhestru problemau amgylcheddol, achosion, atebion arfer gorau ac atebion rheoleiddiol
  • yn amlygu cyfraniadau gan ffermwyr sy'n datblygu ac yn hyrwyddo arfer gorau 
  • yn gosod targedau amgylcheddol ar gyfer ffermio llaeth ac sy'n adrodd yn flynyddol
  • yn cyfleu ein cynllun ar gyfer gweithio gyda chi i leihau effaith amgylcheddol ffermio llaeth.

Mae'r cynllun amgylcheddol yn wirfoddol ac efallai y bydd yn lleihau'r angen am reoleiddio yn y dyfodol. Mae'n bosibl y bydd hefyd yn gweithredu fel model ar gyfer sectorau amaethyddol eraill.