Systemau Draenio Cynaliadwy

Mynnwch wybod am dechnegau SUDS, ymchwil, ein polisi ac arweiniad.

Mae’r adran hon yn:

  • esbonio gweithdrefnau draenio traddodiadol
  • amlinellu pam mae SUDS yn cynnig opsiwn mwy cynaliadwy ar gyfer draenio
  • darparu dolenni at ffynhonellau rhagor o wybodaeth.

Effeithiau niweidiol draenio traddodiadol


Cynlluniwyd draenio traddodiadol i symud dŵr glaw cyn gynted ag y bo modd o’r man lle cwympodd i fan gollwng, sef naill ai cwrs dŵr neu suddfan dŵr.

Mae gan y dull hwn nifer o effeithiau niweidiol: 

  • Mae dŵr ffo o balmentydd ac o doeau yn gallu cynyddu perygl llifogydd i lawr yr afon, yn ogystal â pheri i’r lefelau dŵr a’r graddau llif mewn cyrsiau dŵr i godi’n sydyn.
  • Gall dŵr ffo ar y wyneb gynnwys halogyddion fel olew, deunydd organig a metalau gwenwynig. Er mai lefelau isel ohonynt sydd fel arfer, mae’n fwyfwy posibl y gallant arwain at ansawdd dŵr gwael mewn afonydd ac mewn dŵr daear, gan effeithio ar bioamrywiaeth, ar werth yr amwynder ar echdynnu dŵr o bosibl. Ar ôl glaw trwm, mae’r dŵr cyntaf yn aml yn llygru’n sylweddol.  
  • Wrth wyro dŵr glaw i systemau o bibau, rhwystrir dŵr rhag amsugno i’r ddaear, sy’n lleihau’r dŵr daear ynghyd â’r llif i gyrsiau dŵr pan fo’r tywydd yn sych.

O ganlyniad, mae llawer o gyrsiau dŵr trefol yn ddifywyd ac yn anneniadol, ac yn aml maent wedi’u cuddio mewn cwlfertau yn y ddaear.