Mynnwch wybod pa brosiectau ymchwil Systemau Draenio Cynaliadwy (SUDS) y mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymwneud â nhw
Er bod llawer o elfennau dull Systemau Draenio Cynaliadwy (SUDS) o ddraenio wedi cael eu defnyddio ers amser maith, mae angen magu gwell ddealltwriaeth o:
- sut maent yn gweithio yn unigol ac wrth eu cyfuno
- gofynion o ran eu cynnal a’r wybodaeth am y gost sy’n gysylltiedig.
Mae ystod eang o waith eisoes wedi’i gyflawni neu’n mynd rhagddo. Mae crynodeb manwl o’r ymchwil perthnasol ar gael ar wefan Cymdeithas Ymchwilio a Gwybodaeth y Diwydiant Adeiladu (CIRIA).
Ymchwil SUDS Asiantaeth yr Amgylchedd
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn bartner mewn nifer o brosiectau ymchwil sy’n ymwneud â SUDS. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Pyllau Swydd Efrog – cynnal SUDS– astudiaeth o waddodion cronedig mewn pyllau draenio, Prifysgol Bradford
- Prosiect Nant Bourne – astudiaeth o ddalgylch trefol bychan a’r cyfleoedd ar gyfer SUDS
- agweddau cymdeithasol SUDS– astudiaeth o agweddau tuag at ddŵr trefol a SUDS yn arbennig, Prifysgol Abertay, Dundee
- defnyddio SUDS mewn datblygiadau â dwysedd uchel – prosiect cydweithredol a reolir gan HR Wallingford
- cytundebau model ar gyfer systemau rheoli dŵr cynaliadwy – prosiect cydweithredol a reolir gan CIRIA
- technegau SUDS – rhagor o arweiniad ar safonau cynllunio hydrolig a strwythurol – prosiect cydweithredol a reolir gan CIRIA.
- Cynllun RhDTC Waterlooville yw’r fenter gyntaf o’i bath yn y wlad, sef astudiaeth o fuddion RhDTC mewn datblygiad sylweddol trwy archwilio llifoedd, ansawdd ac ecoleg dŵr cyn, yn ystod, ac wedi’r adeiladu. Mae’r cynllun yn ymdrech ar y cyd rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd, y datblygwyr (Grainger), eu hymgynghorwyr draenio nhw Mayler Brown, a Phrifysgol Portsmouth.
Mae grŵp SUDS Prifysgolion yr Alban wedi ymgymryd â nifer o astudiaethau ar safleoedd penodol, ac mae taflenni gwybodaeth unigol ar gael ar gyfer bob un o’r rhain ar wefan SNIFFER, ynghyd â chronfa ddata o safleoedd SUDS yn yr Alban.