Adrodd am ddigwyddiadau

Sut i adrodd am unrhyw ddigwyddiad yn eich cronfa ddŵr?

Er bod argaeau’n fanteisiol i gymdeithas, gallant achosi difrod sylweddol a pheryglu bywydau hefyd. Er mai prin iawn yw’r achosion o argaeau’n methu, ceir achosion neu ddigwyddiadau difrifol yn y DU bob blwyddyn. Rydym wedi datblygu system adrodd ac ymchwilio ôl-ddigwyddiad gyda Halcrow Group Cyf. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn defnyddio dull cyson o adrodd a chofnodi digwyddiadau mewn cronfeydd dŵr.

Beth i’w wneud os bydd digwyddiad yn eich cronfa ddŵr chi?

1. Os bydd unrhyw beth yn digwydd, cysylltwch â’ch peiriannydd goruchwylio ac, os oes angen, ein llinell ddigwyddiadau ar 0800 80 70 60.

2. Unwaith y bydd y sefyllfa dan reolaeth, bydd angen i chi ddweud wrth ein Tîm Diogelwch Cronfeydd Dŵr trwy ffonio 01392 442001 (9am-5pm Llun i Gwener). Bydd angen i ni wybod beth yw enw a lleoliad y gronfa ddŵr, ynghyd â’ch manylion cyswllt chi. Efallai y byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen adrodd ôl-ddigwyddiad.

Beth rydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth hon?

Ein nod yw casglu gwybodaeth am ddigwyddiadau i lywio gwaith dysgu ac ymchwil. Nid ydym yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir i gychwyn camau gorfodi dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975. Bydd unrhyw wersi a ddysgwyd yn sgil y digwyddiadau hyn yn cael eu rhannu gyda’r diwydiant cronfeydd dŵr mewn adroddiadau blynyddol i hyrwyddo diogelwch.

Os hoffech gael copi o un o'n hadroddiadau blynyddol blaenorol, anfonwch e-bost atom.

Arferion da

Rydym wedi defnyddio enghreifftiau go iawn i roi cipolwg ar ddigwyddiad (neu grwpiau o ddigwyddiadau) lle cafodd gwersi penodol eu dysgu, ac y gellir eu rhannu gyda’r diwydiant cronfeydd dŵr.

Dolenni allanol

We are not responsible for the content of other web sites.

Dolenni allanol

We are not responsible for the content of other web sites.