Mae’r cyfrifiannell carbon yn daenlen Excel sy’n cyfrifo’r carbon deuocsid (CO2) a gorfforir mewn deunyddiau, ynghyd â’r CO2 sy’n gysylltiedig â’u cludo. Mae hefyd yn ystyried teithio personol, defnydd egni’r safle a rheoli gwastraff.
Gall ein cyfrifiannell carbon eich helpu i wneud penderfyniadau ynghylch cynaliadwyedd eich gweithgareddau adeiladu.
Mae gennym ddiddordeb eang mewn adeiladu a’r effeithiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig ag ef. Rydym hefyd yn gleient adeiladu arwyddocaol. Mae’r swm yr ydym yn ei wario ar adeiladu (£200 miliwn ar gyfer 2007-08) yn cyfrif am tua 3% o’r sector peirianneg sifil adeiladu.
Fel cleient adeiladu, ein rôl yw arwain drwy esiampl a dangos yr hyn y mae adeiladu cynaliadwy yn ei olygu’n ymarferol. Mae gwella effeithlonrwydd adnoddau a lleihau allyriadau carbon a ddaw o’n prosiectau adeiladu yn rhan bwysig o hynny.
Trwy weithio gyda Jacobs, rydym wedi datblygu cyfrifiannell carbon sydd wedi’i anelu at ein gweithgareddau adeiladu. Byddwn yn ei ddefnyddio yn ein holl brosiectau adeiladu mawrion o fis Tachwedd 2007.
At ba bwrpas ydym ni’n ei ddefnyddio?
Mae’r teclyn hwn yn ein helpu i asesu a chymharu cynaliadwyedd cynlluniau gwahanol (yn nhermau CO2) ac mae’n dylanwadu’r dewis opsiynau yn ystod y cam gwerthuso opsiynau.
Mae’n helpu amlygu’r mannau y gallwn wneud arbedion carbon mawr ar brosiectau adeiladu penodol.
Gallwn hefyd ei ddefnyddio i gyfrifo ôl troed carbon cyflawn Asiantaeth yr Amgylchedd o ran adeiladu a’n helpu i’w leihau.
Datblygwyd y teclyn gyda’n gweithgareddau adeiladu ein hunain mewn golwg (prosiectau afonol ac arfordirol yn bennaf). Serch hynny, gallai cleientiaid, contractwyr ac ymgynghorwyr adeiladu eraill ei gael yn ddefnyddiol wrth fynd i’r afael â’u gweithgareddau eu hunain.
Rydym wedi diweddaru ein Hamcangyfrifydd Carbon Adeiladu ni. Yn ogystal â chynnwys ynddo’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch carbon corfforedig, rydym hefyd wedi achub y cyfle i’w wella’n sylweddol trwy roi rhagor o bwyslais ar helpu’r defnyddiwr i leihau carbon corfforedig eu cynlluniau nhw.
Case studies
The case studies below show examples of how, along with our framework partners, we have used the carbon calculator to identify big carbon savings on our projects: