Mae gennym ddau grŵp rheoleiddio niwclear. Y grwpiau hyn sy'n rheoleiddio sut mae safleoedd niwclear yn rheoli gwastraff ymbelydrol a gwastraff arall ac yn gwaredu'r gwastraff hwnnw er mwyn diogelu pobl a'r amgylchedd.
Ble maent yn gweithredu?
Mae ein dau grŵp rheoleiddio niwclear yn rheoleiddio materion amgylcheddol ar safleoedd niwclear yng Ngogledd Cymru a Gogledd Lloegr (y grŵp a leolir yn y Gogledd) a De Cymru a De Lloegr (y grŵp a leolir yn y De).
Prif rôl y grwpiau hyn yw sicrhau bod safleoedd niwclear yn cyflawni'r safonau diogelwch amgylcheddol uchaf posibl.
Beth y maent yn ei wneud?
Mae rhai o'u dyletswyddau eraill yn cynnwys:
- asesu ceisiadau ar gyfer trwyddedau amgylcheddol ar gyfer safleoedd niwclear
- adolygu trwyddedau amgylcheddol safleoedd niwclear yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn briodol o hyd
- ymchwilio i ddigwyddiadau a chymryd camau gorfodi os oes angen
- darparu cyngor ar gynlluniau hirdymor ar gyfer safleoedd niwclear sy'n eiddo i'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear
- gweithio gyda gweithredwyr â'n tîm monitro ein hunain er mwyn sicrhau y caiff yr amgylchedd ei fonitro'n briodol yng nghyffiniau safleoedd niwclear
- rhoi gwybod i'r cyhoedd am y broses reoleiddio a cheisio barn gan bobl yn y DU a thramor
- gweithio gyda'n cydweithwyr a rheoleiddwyr eraill er mwyn sicrhau bod trefniadau rheoleiddio yn ddi-dor ac yn gyson rhwng safleoedd niwclear a safleoedd diwydiannol tebyg
Ymateb mewn argyfwng
Mae gennym rôl i'w chwarae os bydd digwyddiad ar safle niwclear yn cael effaith y tu hwnt i'r safle, neu pe byddai digwyddiad niwclear dramor a allai effeithio ar y DU.
Byddwn yn rhoi cyngor ar sut y gallai'r digwyddiad effeithio ar yr amgylchedd cyffredinol neu'r cyflenwad dŵr. Rydym hefyd yn rhoi cyngor ar ddadlygru, glanhau a gwaredu gwastraff. Mae'r Grwpiau Rheoleiddio Niwclear yn cymryd rhan mewn ymarferion argyfwng a chynllunio ymateb yn rheolaidd.
Cysylltwch â'n Grwpiau Rheoleiddio Niwclear
NRG North
The Environment Agency
Ghyll Mount
Gillan Way
Penrith 40 Business Park
Penrith
Cumbria
CA11 9BP
NRG South
The Environment Agency
Red Kite House
Howbery Park
Crowmarsh Gifford
Wallingford
Oxon
OX10 8BD
Ffôn: 01491 828629