Mae'r wybodaeth isod yn amlinellu ein cyngor cyffredinol i ddatblygwyr ar adeiladu cynaliadwy. Mae'r Rhestr wirio amgylcheddol lawn yn darparu'r holl gyngor hwn mewn ffeil pdf y gallwch ei hargraffu a'i defnyddio.
- Cyflawnwch asesiad amgylcheddol ac asesiad cynaliadwyedd yn gynnar i'ch helpu chi i ystyried yr effeithiau amgylcheddol a'r atebion mewn modd holistaidd.
- Ystyriwch offer a gosodiadau yn eich datblygiad sy'n defnyddio dŵr ac ynni'n effeithlon, fel peiriannau golchi 'gradd A' neu doiledau fflysio isel neu fflysio deuol. Yn Llundain, mae'r Maer wedi pennu safon effeithlonrwydd dŵr gofynnol ym mhob datblygiad newydd sef 110 litr y pen, y diwrnod.
- Siaradwch â'r awdurdod cynllunio lleol i gael gwybod a oes ganddynt arweiniad neu safonau cynllunio atodol ar adeiladu cynaliadwy.
- Siaradwch â'r awdurdod lleol i gael gwybod am ailgylchu wrth y palmant. Dyluniwch adeiladau gyda gofod ar gyfer didoli a storio gwastraff er mwyn gwneud ailgylchu'n haws.
- Meddyliwch am y ffordd y gallai ynni gael ei gynhyrchu ar y safle, y cyflenwad y bydd ei angen arnoch o ardaloedd cyfagos ac unrhyw seilwaith y bydd ei angen arnoch.
- Os byddwch yn defnyddio'r ddaear fel ffynhonnell gwres neu oeri, mae'n rhaid i chi fynd i'r afael â'r peryglon o lygru dŵr daear.
- Ystyriwch sut bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich datblygiad trwy ddefnyddio rhestr wirio Partneriaeth Newid yn yr Hinsawdd y Tri Rhanbarth.
- Siaradwch â'r cwmnïau cyfleustodau i wneud yn siwr bod eu seilweithiau'n gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd. Er enghraifft, bydd angen gwarchodaeth well ar brif gyflenwad nwy a cheblau trydan mewn ardaloedd perygl llifogydd.
- Defnyddiwch eich holl ddefnyddiau'n ddoeth ac ystyriwch yr effaith y byddant yn ei chael ar ddiwedd eu hoes.
- Cyflawnwch asesiad o'r gadwyn gyflenwi mewn modd strwythuredig, er mwyn lleihau'r effeithiau a ddaw o'ch cyflenwyr defnyddiau.
- Dylech ôl-ffitio adeiladau sydd eisoes yn bodoli er mwyn ailddefnyddio adnoddau a lleihau tarfu. Mae angen ystyried cwmpas hwn yn gynnar pan ddaw cyfleoedd i ddatblygu. Dylid penderfynu hyn ar ddechrau cylch bywyd eich prosiect.