Fan hyn, gallwch gael gwybodaeth am y gwahanol ffyrdd y gallwch arbed dŵr.
Y camau cyntaf i arbed dŵr
Mae'n ymddangos yn syml, ond i ddechrau mae angen i chi wybod faint o ddŵr rydych chi'n ei ddefnyddio. Yna, mae angen i chi weithio allan a yw hyn yn gywir ai peidio.
Os ydych yn defnyddio mwy o ddŵr nag y dylech fod yn ei ddefnyddio, mae angen i chi ddarganfod lle gallech leihau eich defnydd ar ddŵr a chynllunio'r ffordd orau o wneud hyn. Cadwch gofnod o'r newidiadau a wnewch ac adolygwch eich defnydd ar ddŵr ymhen ychydig fisoedd, neu yn ystod y tymor tyfu nesaf, i weld a ydych wedi arbed dŵr. Mae rheolaeth dda'n gofyn bod y camau hyn yn cael eu hailadrodd yn rheolaidd.
Mae ein canllaw syml, Yn ddŵr-gall ar y fferm, yn dadansoddi hyn yn bum cam syml, hawdd eu dilyn. Ysgrifennwyd y canllaw hwn ar gyfer y sectorau anifeiliaid, ond yr un yw'r camau ar gyfer pob fferm.
Yn ogystal, mae ein canllaw Cynaeafu Dŵr Glaw (PDF, 2.83MB) yn dangos sut gall gweithredu system cynaeafu dŵr glaw arbed arian i chi, lleihau eich dibyniaeth ar ddŵr prif gyflenwad, a chwtogi ar faint o slyri a storir a dŵr ffo.
Mae Defra ac ADAS wedi cynhyrchu pedwar canllaw arfer gorau ar gyfer dyfrhawyr:
- Rheolaeth dŵr ar gyfer cnydau llysiau maes, canllaw i dyfwyr llysiau.
- Rheolaeth dŵr ar briddoedd a chnydau a dyfir mewn is-haenau, canllaw i dyfwyr wyneb a thyfwyr ffrwythau meddal.
- Canllaw ar gyfer planhigion addurnol a dyfir mewn cynhwysyddion.
- Arfer dyfrhau gorau: Rheolaeth dŵr ar gyfer tatws - canllaw i dyfwyr.
Mae copïau ar gael oddi wrth Adas, Boxworth, Ffôn +44 (0)1954 268214