Lluniasom yr adroddiad hwn gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru.
Mae Ffermio da, amgylchedd gwell: cyflwr yr amgylchedd a ffermir yng Nghymru a Lloegr yn rhoi gwybodaeth bwysig am yr hyn sy'n digwydd yn yr amgylchedd a ffermir, ac mae'n amlinellu'r hyn y mae angen i ni ei wneud er mwyn gwneud gwelliannau pellach.
Lluniwyd yr adroddiad ar y cyd hwn gennym oherwydd:
- Mae'r hyn sy'n digwydd ym myd ffermio'n bwysig - i'r wlad, i gefn gwlad, ac i'r amgylchedd ehangach, mae ffermio da yn dda i incymau fferm, i'r amgylchedd ac i'r economi wledig.
- Mae datblygiad gwledig llwyddiannus, cynaliadwy yn dibynnu yn y pen draw ar adnoddau naturiol o ansawdd uchel, fel pridd, aer, dŵr a chynefinoedd.
- Mae angen i ni weld gwelliant yng nghydbwysedd yr agweddau cadarnhaol a'r agweddau negyddol a ddaw o ffermio - mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwaelodlin y gallwn asesu yn ei herbyn ac mae'n ganllaw i waith yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod rhai hanesion o lwyddiant gwirioneddol yn yr amgylchedd a ffermir, er enghraifft nifer gostyngol y digwyddiadau llygru sy'n cael eu hachosi gan ffermwyr. Mae arwyddion da yn adferiad rhai o rywogaethau bywyd gwyllt tir fferm ac mae faint o nwyon tŷ gwydr sy'n cael ei ryddhau trwy ffermio wedi bod yn gostwng. Mae rhai ffermwyr yn defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon, gan gynnwys ynni, dŵr, a chemegau.
Tra bod cynnydd wedi cael ei wneud mae llawer o faterion eraill y mae angen gwneud mwy mewn perthynas â nhw. Mae'r rhain yn cynnwys llygredd dŵr gwasgaredig, dirywiad rhywfaint o fywyd gwyllt tir fferm, rheoli effeithiau newid yn yr hinsawdd a'r risg o lifogydd.
Yn gryno, mae tri pheth yr hoffwn eu gweld yn digwydd er mwyn cefnogi ffermio da ar gyfer amgylchedd gwell:
- Rydym yn gwybod bod llawer o ffermwyr yn ymateb i'r heriau amgylcheddol ac yn ymgorffori'r amgylchedd yn eu busnes.
- Dymunwn fod eraill yn cydnabod y rôl unigryw y mae ffermio'n ei chwarae wrth gynhyrchu'n bwyd a'n hegni a gofalu am ein tirwedd a'n hamgylchedd.
- Byddwn yn chwarae ein rhan wrth fynd i'r afael â'r materion a nodwyd gennym yn yr adroddiad hwn. Ond mae'n rhaid i bawb chwarae eu rhan, gyda chyfuniad o ddulliau arloesol o reoleiddio, cyngor, ysgogiadau a newidiadau mewn ymddygiad er mwyn symud ymlaen i amgylchedd sy'n cael ei ffermio'n well.