Astudiaeth achos ar faetholion

Mae cyflawni'r cydbwysedd cywir o faetholion yn y pridd yn gwella ansawdd a chynnyrch cnydau. Mae hefyd yn helpu i leihau llygredd gwasgaredig a cholledion maetholion trwy ddŵr ffo neu drwytholchi i gyrsiau dŵr neu ddŵr daear.

Yr allwedd i lwyddiant yw dadansoddi pridd yn rheolaidd (bob tair i bedair blynedd) a chynllun rheoli maetholion, gan eich galluogi chi i wneud y mwyaf o'r holl fewnbynnau wrth gadw costau o dan reolaeth lem.

Dull integredig

Rhywun sy'n credu'n gryf yn y dull hwn yw Philip Chamberlain, sy'n ffermio 1,200 hectar o dir âr yn Swydd Rhydychen ac sy'n ymddangos yn yr Arferion Ffermio Gorau.

Mae Philip yn asesu amrywiadau pridd a chnydau yn ei gaeau ac mae'n addasu ei ddefnydd ar wrtaith a phlaleiddiaid yn unol â hynny. Mae'n cyfrif am faetholion gweddilliol, cynnyrch hanesyddol a chanfyddiadau samplo'r pridd wrth gynllunio'i gnydau a phenderfynu ar ei orchuddion gwrtaith.

Mae cynllunio rheolaeth maetholion yn ofalus yn ei alluogi ef i ddefnyddio gwrtaith, compost, cylchdroi cnydau a thechnegau ffermio manwl fel rhan o ddull integredig sydd wedi gostwng ei wariant ar wrtaith, plaleiddiaid, tanwydd a hadau yn sylweddol.

Mae gosod mater organig ar ffurf llaid carthion, tail moch a chompost wedi helpu i wneud amaethu'n haws ar dir trwm ac i wella dargadwedd lleithder. Mae hefyd wedi bod yn gost effeithiol – byddai cost o £60,000 y flwyddyn petai'n rhaid i Philip dalu am y gwrtaith cyfatebol.

Amlinelliad ymarferol

Mae Arferion Ffermio Gorau yn rhoi amlinelliad ymarferol o sut i drafod, storio a defnyddio gwrteithiau gwneud, gwrtaith fferm a slyri gyda golwg ar osgoi llygredd amgylcheddol a sicrhau'r maeth gorau i gnydau.

Er enghraifft, dylai pob lledaenydd gael ei gynnal a'i galibro'n rheolaidd fel bod gorchuddion yn gywir ac yn gyfartal. Gall cadw dŵr glaw allan o slyri gynnal crynodiad da o faetholion a gostwng costau lledaenu.

Arbed £10,000 y flwyddyn

Mae Alistair Vanstone, ffermwr llaeth o Ddyfnaint sy'n ymddangos yn yr Arferion Ffermio Gorau, wedi rhoi to cafn dros ardal aeafu gyfan ei wartheg i amddiffyn ei anifeiliaid rhag glaw trwm y gaeaf ac i gadw dŵr glân a dŵr budr ar wahân. Mae dŵr to'n cael ei gyfeirio oddi wrth ei storfa slyri, sy'n arbed lledaenu cyfwerth ag un storfa lawn o slyri y flwyddyn. Mae hyn yn torri tua £10,000 oddi ar gostau.

Y peth gorau i'w wneud yw osgoi lledaenu gwrtaith fferm pan fydd yn ffres, oherwydd gall hyn arwain at golledion a pheri risg o lygredd dŵr. Mae dadelfeniad gwrtaith sydd wedi'i storio'n ei wneud yn haws ei ledaenu ac yn gwneud amaethu dilynol yn haws hefyd.

Mae'n werth ymchwilio i gompostio oherwydd gall leihau hadau chwyn hyfyw, pathogenau ac arogl. Mae hefyd yn helpu mater organig i gymysgu â glaswelltydd.