Gall toeau gwyrdd:
- Helpu i gynnal cyfeintiau a chyfraddau dŵr ffo cyn datblygu neu faes glas o safleoedd datblygu.
- Gwella bioamrywiaeth ar bob safle datblygu newydd.
- Helpu i sicrhau bod datblygiadau wedi cael eu dylunio er mwyn addasu i newid yn yr hinsawdd.
- Helpu i wella ansawdd dŵr/dŵr ffo.
Mae manteision hefyd i'r datblygwr ac i'w dîm:
- Bydd Peirianwyr Sifil a Mecanyddol yn gallu defnyddio'r to gwyrdd mewn cyfrifiadau dŵr ffo a lleihau'r angen am aerdymheru.
- Gall Ymgynghorwyr Tirlun ac Ecoleg liniaru effeithiau a gwella'r datblygiad ar gyfer ecoleg.
- Gall cost y to gwyrdd gael ei gydbwyso ag arbedion mewn meysydd eraill, fel atebion i ddŵr storm ar lefel y ddaear a'r galw am ynni.
Manteision amgylcheddol
Addasu i newid yn yr hinsawdd
‘Bydd hafau erbyn 2050 1.5–3.5oc yn gynhesach. Yng nghanol Llundain mae'r ynys gwres trefol ar hyn o bryd yn ychwanegu 5-6oc at dymereddau dros nos yn yr haf a byddant yn dwysáu yn y dyfodol.’ O London’s Warming: The Impacts of Climate Change
- Yn y DU, mae Canolfan Tyndall er Newid yn yr Hinsawdd wedi darganfod y bydd angen i ardal drefol gynyddu 10 y cant ar faint o lystyfiant sydd yno i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd. Ym mwyafrif ein dinasoedd, prin yw'r lle ar lefel y ddaear ar gyfer llystyfiant a phridd, felly mae toeau gwyrdd yn ateb delfrydol.
- Disgwylir y bydd patrymau glawio'n newid, gan arwain at fwy o adegau dwysach o law, yn enwedig yn ystod yr haf. Bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn fflachlifoedd lleol - gall toeau gwyrdd helpu i leihau hyn.
Cydbwyso ynni a CO2
Mae gan doeau gwyrdd fàs thermol sylweddol ac felly gallant gynnig inswleiddio cymedrol - mae hyn yn golygu y gellir gostwng costau aerdymheru yn sylweddol. Mae modelu adeiladau yn Toronto gan Environment Canada yn awgrymu y gellir arbed 4.15kW/hrs/m2/yr mewn costau aerdymheru, gan ostwng allyriadau CO2 felly.
- Yn Llundain, mae Paradise Park ym Mwrdeistref Llundain, Islington, yn enghraifft dda o arbed ynni. Oherwydd màs thermol y to gwyrdd, nid oes unrhyw aerdymheru wedi cael ei osod yno. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad mewn 3,800kW/hrs ac arbediad o 1.6 tunnell fetrig o CO2.
- Mae tystiolaeth o'r Almaen yn awgrymu y gall toeau gwyrdd leihau'r defnydd ar danwydd yn ystod y gaeaf rhwng 6 –kWh/m2/yr. Mae hyn yn dibynnu ar ba mor wlyb yw'r toeau gan fod hyn yn gostwng eu gwerth inswleiddio.
- Mae toeau gwyrdd yn gweithio'n dda gyda phaneli solar, gan eu bod yn cynyddu effeithiolrwydd paneli solar trwy reoleiddio tymheredd.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalennau LivingRoofs.org ar gadwraeth ynni ac ynysoedd gwres trefol.
Dŵr
- Mae toeau gwyrdd yn gostwng y briglif a chyfanswm y cyfaint sy'n cael ei ollwng o do (gallant atal o leiaf 5mm o law).
- Gall toeau gwyrdd wella ansawdd y dŵr yn y dŵr ffo. Mae ymchwil mewn nifer o wledydd wedi dangos bod modd gostwng faint o nitrogen a ffosfforws sydd yn y dŵr ffo.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalennau LivingRoofs.org ar ddŵr storm.
Bioamrywiaeth
- Mae toeau gwyrdd yn cynnig cynefin ar gyfer bywyd gwyllt, yn enwedig os ydych chi'n cynnwys blychau nythu, boncyffion a nodweddion dŵr, a rhywogaethau brodorol o blanhigion.
- Mae ymchwil yn Llundain ac yn Basel wedi dangos bod toeau gwyrdd eang sydd wedi'u cynllunio'n dda'n gallu cynnig lloches bwysig i infertebratau prin sy'n gysylltiedig â safleoedd tir llwyd a chynefinoedd eraill sych, isel eu maeth, wedi'u draenio'n dda.
- Maent yn gynefin pwysig i rywogaethau prin o adar, yn enwedig y Tingoch Du yn ardal Llundain.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalennau LivingRoofs.org ar fioamrywiaeth.
Manteision eraill
- Gall sŵn sy'n mynd i mewn i'r adeilad gael ei ostwng o hyd at 18 desibel. Gall sŵn adlewyrchol gael ei ostwng tri desibel neu fwy. I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalennau LivingRoofs.org ar sŵn ac inswleiddio rhag sŵn.
- Gall toeau gwyrdd hidlo llwch a llygryddion aer eraill. I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalennau LivingRoofs.org ar ansawdd aer.
- Gallant ehangu gofod mwynder. I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalennau LivingRoofs.org ar ofod gwyrdd ac iechyd.
- Maent yn gwella gwerth yr eiddo.
- Maent yn cynyddu oes diddosi trwy weithredu fel haen amddiffynnol yn erbyn rhew, golau uwch fioled a phwysau hinsoddol eraill. I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalennau LivingRoofs.org ar oes estynedig to.