Heriau a chyfyngiadau

Cynnal a chadw

  • Mae angen cynnal a chadw pob to.
  • Mae angen archwiliad blynyddol ar doeau gwyrdd mawr er mwyn sicrhau bod yr holl allfeydd draenio a graean ar hyd y terfynau yn rhydd rhag llystyfiant.
  • Bydd angen ychydig o gynnal a chadw ychwanegol ar lystyfiant to gwyrdd, yn ddibynnol ar y system.
  • Bydd angen dyfrhau a lefel uwch o gynnal a chadw ar doeau gwyrdd dwys a rhannol ddwys. Parciau a gerddi ydynt, wedi'r cyfan!

Strwythur

  • Bydd toeau gwyrdd yn galw am godi'r strwythur i gynnal y to gwyrdd. Fodd bynnag, dylid cydbwyso'r codi hwn â'r manteision y mae'r system yn eu cynnig i'r adeilad a'r amgylchedd ehangach.

Cost

  • Mae cost toeau gwyrdd yn uwch, ond gellir gosod y gost hon yn erbyn gostyngiad mewn dyfeisiadau storio dŵr ar lefel y ddaear, cynnydd yng ngwerth yr eiddo ac arbedion ynni.

Tân

  • Ystyrir bod mwy o berygl tân yn perthyn i doeau gwyrdd nag atebion confensiynol ar gyfer toeau. Fodd bynnag, bydd adeilad sydd â tho gwyrdd yn yr Almaen yn cael gostyngiad yng nghost yr yswiriant tân gan fod y to gwyrdd yn amddiffyn y diddosi rhag tân.
  • Mae systemau toeau gwyrdd sydd wedi cael eu hawdurdodi gan Fwrdd Arweiniad ar Doeau Gwyrdd yr Almaen yn dilyn rheolau caeth iawn ynghylch faint o ddeunydd fflamadwy sydd ganddynt a'r angen am rwystrau tân.
  • Ni fu unrhyw enghreifftiau difrifol o danau ym marchnadoedd yr Almaen a'r Swistir, lle mae dros 75 miliwn m2 o doeau gwyrdd wedi cael eu gosod.

Difrod i ddiddosi

  • Nid yw toeau gwyrdd yn achosi toeau i ollwng dŵr. Dim ond gosod gwael sy'n gallu achosi gollyngiadau (mae'r rhan fwyaf o gwmnïau da yn profi am ollyngiadau cyn gosod yr elfen werdd).
  • Yn wir, prif fantais to gwyrdd yw ei fod yn amddiffyn y bilen rhag difrod, felly'n ymestyn ei bywyd.
  • Mae enghreifftiau o doeau gwyrdd yn yr Almaen a'r Swistir lle nad yw'r diddosi wedi cael ei newid, hyd yn oed ar ôl 90 blynedd.