Y cyd-destun polisi

Polisi cenedlaethol

Er nad oes polisi cenedlaethol pendant sy'n gofyn am ddefnyddio toeau gwyrdd, neu sy'n annog eu defnyddio, mae polisïau cenedlaethol allweddol sy'n eu cefnogi. Mae'r rhain yn cynnwys Sicrhau'r dyfodol – strategaeth datblygu cynaliadwy 2005 Llywodraeth y DU, a Newid yn yr Hinsawdd – Rhaglen 2006 y DU.

Byddai'r defnydd o doeau gwyrdd hefyd yn cyd-fynd ag ystod o arweiniad polisi, gan gynnwys:

  • PPS1 - Cyflwyno datblygu cynaliadwy
  • PPG2 - Lleiniau glas
  • PPS3 - Tai
  • PPS9 - Bioamrywiaeth a chadwraeth ddaearyddol
  • PPG17 - Cynllunio ar gyfer gofod, chwaraeon a hamdden
  • PPS25 - Datblygu a pherygl llifogydd

Polisi Llundain

Mae ein gweledigaeth am Lundain fwy gwyrdd yn cyd-fynd â gweledigaeth Cynllun Llundain (wedi'i gyfnerthu ag Addasiadau er 2004):

  • Polisi 4A.3 - Dylunio ac adeiladu cynaliadwy
  • Polisi 4A.9 - Addasu i newid yn yr hinsawdd
  • Polisi 4A.11 - Toeau a muriau byw
  • Polisi 4A.14 - Draenio cynaliadwy
  • Polisi 4A.17 - Ansawdd dŵr

Mae polisi 4A.11 - Toeau a muriau byw - yn datgan:

Bydd y Maer yn disgwyl, a dylai bwrdeistrefi ddisgwyl bod datblygiadau mawr yn ymgorffori toeau a muriau byw lle bo hynny'n ymarferol ac adlewyrchu'r egwyddor hon mewn polisïau DPD. Disgwylir y bydd hyn yn cynnwys plannu toeau a muriau sy'n cyflwyno cynifer o'r amcanion hyn ag y bo modd:

  • Gofod ar y to y gellir mynd ato
  • Addasu i newid yn yr hinsawdd, a'i liniaru
  • Draenio trefol cynaliadwy
  • Gwella bioamrywiaeth
  • Gwelliant mewn golwg

Dylai bwrdeistrefi hefyd annog y defnydd o doeau byw mewn datblygiadau llai ac estyniadau lle daw'r cyfle.