Cyfleusterau gwaredu ar gyfer gwastraff ymbelydrol solet

Canllawiau ar gyfer cyfleusterau gwaredu sy'n agos i'r arwyneb a chyfleusterau gwaredu daearegol ar gyfer gwastraff ymbelydrol.

Tirlenwi

Mae rheoliadau diwygiedig o ran gwaredu gwastraff ymbelydrol yn golygu y gall y diwydiant niwclear waredu rhywfaint o wastraff lefel isel i safleoedd tirlenwi. Dysgwch am reoleiddio gwastraff ymbelydrol sy'n mynd i safleoedd tirlenwi.

Gwaredu yn agos i'r arwyneb a gwaredu daearegol

Bydd angen cyfleusterau gwaredu yn agos i'r arwyneb oherwydd y bydd rhaglen ddadgomisiynu'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear yn creu llawer o wastraff ymbelydrol lefel isel i'w waredu mewn cyfleusterau o'r fath.

Bydd angen cyfleuster gwaredu daearegol ar gyfer gwastraff uchel ei actifedd a gynhyrchwyd gan fwyaf o weithrediadau'r diwydiant niwclear yn y gorffennol.

Canllawiau ar y gofynion ar gyfer awdurdodi

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar y gofynion ar gyfer awdurdodi darpar ddatblygwyr cyfleusterau gwaredu gwastraff ymbelydrol.

Mae'r ddwy ddogfen ganllaw yn cymhwyso'r un egwyddorion a'r un gofynion manwl (ar y cyfan). Rydym yn disgwyl i ddatblygwyr neu weithredwyr ddehongli'r gofynion mewn ffordd sy'n gymesur i'r perygl a berir gan y gwastraff a waredwyd i'r cyfleuster.

Ymgynghori

Cynhyrchwyd y dogfennau hyn o ganlyniad i ymgynghoriad ym mis Medi 2008. Gallwch weld yr adroddiadau ymgynghori isod.

Safonau uchel

Mae ein canllawiau yn pennu safonau uchel i'n helpu ni a'r diwydiant i ddiogelu iechyd pobl a sicrhau'r canlyniad gorau posibl ar gyfer yr amgylchedd.

Rhagor o wybodaeth