Arferion Ffermio Gorau

Syniadau ymarferol i’ch helpu chi i leihau costau, wrth ddiogelu pridd a dŵr.

Elwa ar amgylchedd da

Ym myd ffermio, gall yr hyn sy'n dda ar gyfer busnes hefyd fod yn dda i'r amgylchedd. Mae Arferion Ffermio Gorau yn cynnwys dros 250 o awgrymiadau ar sut y gallwch elwa ar wneud y peth cywir yn amgylcheddol.

Darllen astudiaethau achos

Mae Arferion Ffermio Gorau yn esbonio sut gall stiwardiaeth ddoeth ar adnoddau fel pridd, maetholion, dŵr ac ynni oll eich helpu chi i dorri'ch costau gan gynnal neu wella cynhyrchedd.

Mae'n cynnwys 15 astudiaeth achos o ffermwyr ar draws Cymru a Lloegr – o Sir Benfro i Norfolk ac o fryniau Dyfnaint i weunydd Swydd Efrog. Mae eu hanesion yn dangos sut gall amrywiaeth o fentrau fferm fedi buddion amgylcheddol ac economaidd yn sgil amrywiaeth o gamau syml, isel eu cost.

Gweld sut i wneud arbedion

Un o'r rheiny sy'n ymddangos yw Philip Chamberlain, ffermwr âr o Swydd Rhydychen sy'n disgrifio sut mae ei gnydau'n elwa ar gael gorchuddion rheolaidd o laid carthion, tail moch a gwastraff gwyrdd wedi'i gompostio.

O safbwynt amgylcheddol, mae ei ddefnydd o fater organig a chylchdroi cnydau yn helpu i leihau llygredd i'r eithaf, wrth wella cynefinoedd bywyd gwyllt a'r dirwedd. O safbwynt economaidd, mae'n arbed £60,000 y flwyddyn mewn costau gwrtaith trwy gyfrif am yr holl gyfraniadau maeth organig a thrwy anelu at gyflenwi holl ofynion ffosffad a photash ei gnydau o ffynonellau organig.

Mae Arfer Ffermio Gorau yn llawn cyngor diffwdan a fydd, gobeithio, yn cynnig rhywbeth i chi gnoi cil drosto ac ysbrydoliaeth ar gyfer gweithredu.

Gallwch lwytho copi am ddim o arfer ffermio gorau i lawr o'n catalog cyhoeddiadau - rhowch 'Arferion Ffermio Gorau' yn y blwch chwilio.

Download a copy

You can download a free copy of Best Farming Practices from our online publications catalogue.

To order, put 'Best Farming Practices' in the title search.