Priddoedd

Yma, gallwch weld canllaw ymarferol i asesu pridd, a all eich helpu chi i gynyddu incwm ac arbed arian. Rydym wedi datblygu Thinksoils mewn ymgynghoriad â ffermwyr, syrfëwr pridd ac ymgynghorwyr amaethyddol er mwyn rhoi cyngor ar reolaeth dda ar bridd.

Ynglŷn â phridd a 'thinksoils'

Pridd yw eich ased pennaf. Bydd difrod i bridd, goferu pridd ac erydu yn peri cost ariannol i chi ymhen hir a hwyr a gall achosi llygredd dŵr. Mae'n bwysig bwrw golwg ar strwythur eich pridd fel rhan hanfodol o gyflawni rheolaeth well ar dir. Dewch i adnabod y priddoedd ar eich fferm a rhowch archwiliad iechyd rheolaidd iddynt.

Mae thinksoils yn ganllaw ymarferol i asesu pridd a all eich helpu chi i gynyddu'ch incwm ac arbed arian. Rydym wedi datblygu thinksoils mewn ymgynghoriad â ffermwyr, syrfëwyr pridd a chynghorwyr amaethyddol er mwyn rhoi cyngor ar reolaeth dda ar bridd.

Gall thinksoils eich helpu chi i:

  • Gynyddu cynhyrchion
  • Lleihau sychder a llifogydd
  • Amddiffyn pridd, cnydau ac anifeiliaid
  • Amddiffyn gwasgaru ac erydiad pridd
  • Atal dŵr llygredig a phridd rhag mynd i mewn i gyrsiau dŵr
  • Lleihau'r costau sydd ynghlwm wrth golled pridd, difrod i gnydau a mewnbynnau cemegol
  • Cael cyllid oddi wrth gynlluniau grant y llywodraeth

Mae thinksoils yn rhoi camau ymarferol i chi er mwyn deall eich pridd yn well.

Mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • Achosion erydiad a goferu pridd
  • Nodi problemau â strwythur pridd yn y cae
  • Egwyddorion cyffredinol er mwyn osgoi erydu a goferu

Rydym yn cyflwyno thinksoils drwy gyrsiau a gweithdai hyfforddiant. Os hoffech gael gwybod mwy am hyfforddiant yn eich ardal, neu os oes cwestiwn gennych ynghylch thinksoils, rhowch alwad i ni ar 0370 8506506.

I archebu copi, ewch i'n catalog cyhoeddiadau a chwilio am 'thinksoils'.