Sut gallwch wneud cwyn neu roi adborth i ni ar unrhyw faes o'n gwaith.
Dymunwn glywed oddi wrthych ynghylch eich barn am y gwaith a wnawn. Mae hyn yn ein helpu i ddeall eich anghenion a darparu ar eich cyfer yn y dull gorau posibl.
Esbonnir ein gweithdrefn safonol ar gyfer cwsmeriaid sy’n dymuno cwyno neu ganmol yn ein canllaw:
Sut i gysylltu â ni
Byddwch gystal â darparu rhif ffôn pan fyddwch yn cysylltu â ni. Ein nod fydd i’ch galw rhwng 9yb a 5yp o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os nad fedrwn ni gysylltu â chi ar y ffôn byddwn yn ysgrifennu atoch.
Teleffon: 0370 8506506 (Llun-Gwener 8-6)
Ni fydd galwadau i rifau 03 yn costio mwy na galwad cyfradd cenedlaethol i rif 01 neu 02 a rhaid iddynt gyfrif tuag at unrhyw funudau cynhwysol yn yr un modd â galwadau 01 a 02. Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i alwadau o unrhyw fath o linell gan gynnwys symudol, BT, llinell sefydlog arall neu ffôn talu.
Ysgrifennwch atom yn:
Natonal Customer Contact Centre
PO Box 544
Rotherham
S60 1BY
Cyfeirio cwyn i Ombwdsman
Mae Ombwdsman yn annibynnol ar Asiantaeth yr Amgylchedd a gall ymchwilio i gwynion ble nad ydym wedi gweithredu’n gywir neu’n deg, neu os ydym wedi rhoi gwasanaeth gwael. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac ar gael i bawb.
Bydd yr Ombwdsman yn disgwyl i chi fod wedi dilyn ein gweithdrefn gwynion. Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb cychwynnol i’ch cwyn, yna rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda. Byddwn yn ei drosglwyddo i fyny i uwch swyddog a fydd yn ystyried eich cwyn ac yn ysgrifennu atoch unwaith eto. Os nad yw’r ateb pellach hwn yn eich bodloni, gallwch ofyn bod cyfarwyddwr rhanbarthol neu genedlaethol yn ystyried eich cwyn. Os ydych yn dal i fod yn anhapus â’u harolwg nhw, byddant yn awgrymu eich bod yn cysylltu â’r Ombwdsman perthnasol.
Lloegr
Yn Lloegr, gall yr Ombwdsman Llywodraeth Leol edrych ar gwynion ynghylch pynciau amddiffyn rhag llifogydd a draenio tir yn unig.
Teleffon: 0300 061 0614
Gall yr Ombwdsman Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (PHSO) edrych ar gwynion ynghylch pob agwedd ar ein gwaith. Ar hyn o bryd rhaid i’ch cwyn gael ei gyflwyno trwy gyfrwng eich Aelod Seneddol lleol.
Teleffon: 0345 015 4033
Cymru
Yng Nghymru, gall yr Ombwdsman Gwasanaeth Cyhoeddus dros Gymru edrych ar bob cwyn ynghylch Asiantaeth yr Amgylchedd. Gallwch gwyno iddynt yn uniongyrchol ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith.
Teleffon: 01656 641 150
Adroddiad yr Ombwdsman Llywodraeth Leol
Darllenwch Arolwg Blynyddol yr Ombwdsman Llywodraeth Leol er mwyn canfod sut y gwnaethom ni berfformio ac ymdrin â chwynion yn ystod 2009/10:
Crynodeb o’r cwynion a wnaethpwyd yn ein cylch yr ymdriniwyd â nhw gan yr Ombwdsman Llywodraeth Leol yn ystod 2009/10.