Peidiwch â'i anwybyddu, rhowch wybod amdano! Manylion am sut i roi gwybod am ddigwyddiadau amgylcheddol.
I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, ffoniwch ein
llinell argyfwng ar
0800 80 70 60 (Rhadffon*, gwasanaeth 24 awr). Ni ddylech ddefnyddio'r e-bost i roi gwybod am ddigwyddiad, oherwydd gallai hyn achosi oedi wrth i ni ymateb. *Nid yw galwadau o ffonau symudol yn alwadau rhad ac am ddim a chodir cyfraddau galw arferol gweithredwr y rhwydwaith amdanynt.
Digwyddiadau rydym yn delio â nhw
Dylech eich ffonio ni i roi gwybod am ddigwyddiadau fel:
- difrod neu berygl i'r amgylchedd naturiol
- llygredd i ddŵr neu i dir
- potsio neu bysgota anghyfreithlon
- pysgod sydd mewn trafferth neu bysgod marw
- cwrs dŵr sydd â rhwystr ynddo oherwydd cerbyd neu goeden sydd wedi disgyn, gan achosi perygl o lifogydd
- dympio gwastraff peryglus neu lwyth mawr o wastraff diwydiannol yn anghyfreithlon
- digwyddiadau, gan gynnwys aroglau a sŵn, mewn safleoedd gwastraff a reolir gennym, fel tirlenwi, gorsaf drosglwyddo ac ati.
- alldynnu'n anghyfreithlon o gyrsiau dŵr
- gostyngiad anarferol yn llif afon
- glannau afon neu gamlas sydd wedi cwympo neu sydd wedi'u difrodi'n ddrwg
Digwyddiadau nad ydym yn delio â nhw
Ni ddylech ein ffonio ni i roi gwybod am:
- nwy'n gollwng
- prif bibellau dŵr wedi'u hollti
- afliwio, arogl neu flas dŵr yfed
- llifogydd o ganlyniad i bibell ddomestig wedi hollti neu orlif o ddraeniau'r ffordd
- tipio sbwriel cartref neu ychydig wastraff masnachol yn anghyfreithlon
- niwsans sŵn domestig
- aroglau o eiddo domestig neu eiddo masnachol bach
- llosgi gwastraff domestig neu ardd
- plâu domestig
- allyriadau mwg o gerbydau
- cynnal y ffyrdd
- toriadau ar gyflenwadau trydan neu ddŵr
- draeniau a charthffosydd domestig wedi'u tagu
Ewch i wefan y Llywodraeth GOV.UK i gael gwybod i bwy ddylech adrodd ar y materion hyn:
Taclo'r Taclau (Crimestoppers)
Rydym yn defnyddio ffordd newydd o gasglu rhagor o wybodaeth am y bobl sy’n cyflawni troseddau amgylcheddol trwy lunio partneriaeth â Thaclo’r Tacle. Maent yn elusen annibynnol sy'n helpu i ddod o hyd i droseddwyr a datrys troseddau.
Nid yw Taclo’r Tacle yn cymryd lle ein rhif ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, sef 0800 80 70 60.
Dylech ddal ati i ffonio 0800 80 70 60 os bydd digwyddiad amgylcheddol yn digwydd neu ar fin digwydd e.e. carthffosiaeth yn mynd i afon, llosgi anghyfreithlon yn digwydd neu bobl yn pysgota yn anghyfreithlon.
Pryd i gysylltu â Thaclo'r Taclau
Rydym yn deall yn iawn, fodd bynnag, ar rai achlysuron bod pobl am roi gwybodaeth i ni ond nad ydynt am ddatgelu pwy ydynt, neu ddim am i ni ofyn iddynt roi datganiad neu ymddangos yn y llys.
Mae Taclo’r Tacle yn addo:
- na fyddant byth yn gofyn am eich enw
- na fydd eich galwad yn cael ei recordio
- na fydd eich galwad neu ffurflen ar-lein yn cael ei holrhain
- na fydd raid i chi wneud datganiad
- na fyddwch yn ymddangos yn y llys
Mae rhai meysydd o droseddau amgylcheddol y mae gennym fwy o ddiddordeb ynddynt nag eraill ond peidiwch â bod ofn rhoi adroddiad i ni am rywbeth y byddwch yn ei weld neu ei glywed;
Dyma rai enghreifftiau o’r pethau i chwilio amdanynt:
- tipio anghyfreithlon ar raddfa fawr iawn o 18 neu fwy o dunelli o wastraff - mae hyn yn cyfateb i tua dau sgip 12 llath giwbig
- allforio anghyfreithlon ar deiars sy’n wastraff, offer trydanol gwastraff, a gwastraff trefol
- potsio llyswennod a llyswennod ifanc
- dwyn pysgod a stocio pysgod anghyfreithlon.
Os oes gennych wybodaeth am y meysydd hyn a’ch bod am roi roi gwybod yn ddienw, ffoniwch Taclo’r Tacle ar 0800 555 111 neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein.