Amddiffynfeydd arfordirol Bae Pevensey

Mae amddiffynfeydd arfordirol Bae Pevensey yn cynnwys traethell sy'n ymestyn naw cilometr rhwng Eastburne a Bexhill-on-sea yn Nwyrain Sussex.

Yn union gyfagos i'r arfordir mae ardal o tua 50 cilometr sgwâr sy'n cynnwys dros 10,000 eiddo, sawl maes carafannau a chysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd pwysig.

Mae hefyd yn gartref i Wastadeddau Pevensey - ardal bwysig a sensitif i fywyd gwyllt.  Byddai'r ardal hon yn mynd o dan ddŵr ac yn cael ei niweidio gan yr heli bob penllanw pe bai'r amddiffynfeydd yn cael eu torri'n barhaol.

Er mwyn atal yr amddiffynfeydd arfordirol rhag torri cafodd cerrig mân eu mewnforio a'u ffurfio gan beiriannau ar lan y môr, ac ychwanegwyd grwynau newydd.  Bu'n rhaid gwneud y gwaith hwn ar draeth poblogaidd wrth ymyl ardal breswyl felly gwnaethom weithio'n agos gyda'r gymuned leol i sicrhau ein bod yn defnyddio arferion gwaith amserol a sensitif.

O ganlyniad, enillodd cynllun amddiffynfeydd arfordirol Bae Pevensey wobr yng Ngwobrau Adeiladwyr Ystyrlon 2008.