Muriau Llanw Rother yn Rye

Mae'r cynllun gwella hwn yn cynnwys rhannau o'r arfordir, ac i fyny afon Rother hyd at dref Rye, un o'r pum porthladd hanesyddol, yn Nwyrain Sussex.

Roedd bron 800 eiddo mewn perygl o lifogydd yn Rye. Gwaethygir hyn gan lifgloddiau sy'n erydu'n araf.  Roedd y cynllun gwella yn cynnwys nifer o ddulliau o reoli'r arfordir gan gynnwys codi'r argloddiau, waliau a fflodiardau newydd, a diogelwch rhag erydu'r argloddiau.

Ar bob cam o'r cynllun ystyriwyd yn ofalus sut y gallem gynnwys buddiannau ychwanegol i'r gymuned ac i fywyd gwyllt.  Arbedwyd arian yn ogystal â lleddfu'r effaith weledol drwy ddefnydd arloesol o ddeunyddiau.

Er enghraifft, gosodwyd matresi o brysgwydd yn lle pyst metel, gan arbed £1 filiwn.  A lle bu'n rhaid defnyddio pyst metel i ddiogelu rhag erydu, ychwanegwyd rhagor o angorfeydd ar gyfer y dref.

Adferwyd morfa heli fel rhan o'r cynllun, a thrwy lu o fuddiannau eraill i'r gymuned sicrhawyd bod y cynllun yn cael clod mawr yng Ngwobrau Rhinwedd rhanbarthol Sefydliad y Peirianwyr Sifil.

Ar raddfa lawer mwy, rydym yn helpu i baratoi Strategaethau Moryd, megis yr un ar afon Tafwys ac afon Humber, er mwyn ystyried pa fath o fesurau rheoli y gellid eu rhoi ar waith i greu amgylchedd arfordirol cynaliadwy i bobl ac i fywyd gwyllt, a lleihau'r perygl o erydu a llifogydd llanw cysylltiedig.