Amddiffynfeydd arfordirol Jaywick

Mae Jaywick ym mhen deheuol penrhyn Tendring yn Essex ac mae iddi hanes trychinebus o lifogydd ac erydu arfordirol.  Yn 1953 gorlifodd y môr dros yr amddiffynfeydd a bu farw 37 o bobl.

Dros y tri degawd diwethaf bu nifer o brosiectau i fynd i'r afael â'r perygl o lifogydd o'r môr.  Mae pob un o'r rhain wedi cynnwys ail-lenwi'r traeth ynghyd â morgloddiau o graig.  Mae hyn yn cadw'r tywod yn ei le ar y traeth sydd yn ei dro yn tynnu pwysau oddi ar y forwal o flaen y dref.  Lleolwyd un o'r morgloddiau ar y môr er mwyn atal niwed i nodweddion naturiol pwysig rhannau o lan y môr, nodweddion a ddiogelir o dan y gyfraith.  Ystyriwyd dylanwadau eraill ar ymddygiad arfordirol hefyd, megis rhyddhau dŵr o ddraenio tir i'r môr i'r gorllewin o'r morgloddiau.

Atgyfnerthir ardal glan y môr ymhellach drwy ddefnyddio ail forglawdd morol ynghyd ag ail-lenwi'r traeth eto.  Mae'r morglawdd yn 180 metr o hyd, ac yn 150 metr o'r forwal Mae wedi'i adeiladu gan ddefnyddio tua 40,000 o dunelli o orchudd o greigiau a ddygwyd dros y môr o Norwy.  Defnyddiwyd 250,000 o fetrau ciwbig o dywod ar gyfer ail-lenwi'r tywod.  Cafodd y tywod ei garthu o ardal garthu drwyddedig ar y môr 30 cilometr o'r safle a'i bwmpio i'r tir ar hyd piblinellau tanddaearol.

Mae 'safon dylunio' yr amddiffynfeydd yr un peth â rhannau cyfagos o'r arfordir.  Y safon dylunio yn yr achos hwn yw 1 ym mhob 200 mlynedd.  Mewn geiriau eraill, mae'r dref wedi'i diogelu rhag stormydd o'r môr gyda thebygolrwydd o hyd at 0.5 y cant y bydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn benodol.

Mae'r cynllun hwn gwerth £10 miliwn wedi sicrhau y caiff 2,600 o gartrefi a llawer mwy o bobl eu diogelu.

Mae'n un o dri chynllun arfordirol mawr a gynhaliwyd yn 2009 - 10 yn nwyrain Lloegr.  Mae'r prosiectau eraill yn Felixtowe yn Suffolk ac Eccles i Winterton yn Norfolk.