Gorsafoedd ynni niwclear newydd - ein rôl ni

Fel rhan o’i hadolygiad ynni, gofynnodd y Llywodraeth i ni ystyried rôl ‘asesiadau cyn-trwyddedu’ gorsafoedd pŵer niwclear newydd.

Nodir polisi ynni'r DU yn y Datganiadau Polisi Cenedlaethol (DPC). Mae'r DPC Niwclear yn nodi y bydd unrhyw orsafoedd ynni niwclear newydd yn chwarae rôl bwysig iawn o ran darparu cyflenwadau trydan dibynadwy a chymysgedd diogel ac amrywiol o ynni wrth i'r DU newid i economi carbon isel.

Rydym yn gyfrifol am reoleiddio'r diwydiant niwclear mewn perthynas â materion amgylcheddol megis gwaredu a gollwng gwastraff ymbelydrol o'r safle, gollwng dŵr oeri a gweithredu generaduron wrth gefn. Rydym hefyd yn gyfrifol am reoleiddio materion amgylcheddol eraill, megis gollwng dŵr daear yn ystod gwaith adeiladu, a rhoi cyngor i eraill e.e. mewn perthynas â rheoli perygl llifogydd a pherygl arfordirol.

Ochr yn ochr â'r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR), sy'n rheoleiddio diogelwch, byddwn yn sicrhau bod unrhyw orsafoedd ynni niwclear newydd a adeiladir yn y DU yn cyrraedd safonau uchel o ran diogelwch, diogelu'r amgylchedd a rheoli gwastraff.

Asesiad o Gynlluniau Cyffredinol (ACC)

Rydym wrthi'n gweithio gyda'r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR) i asesu dau gynllun ar gyfer gorsafoedd ynni niwclear newydd.

Gwneir hyn er mwyn sicrhau, pe caent eu hadeiladu yn y DU, y byddai eu heffeithiau amgylcheddol, gan gynnwys y gwastraff ymbelydrol y byddent yn ei greu a'r gollyngiadau y byddent yn eu gwneud, yn dderbyniol, ac y byddai pobl a'r amgylchedd yn cael eu diogelu'n briodol.

Byddwn yn defnyddio'r gwaith hwn i helpu i lywio ein penderfyniadau ynghylch ceisiadau am drwyddedau amgylcheddol ar gyfer safle penodol gan weithredwyr posibl.

Mae'r broses ACC yn ein galluogi ni a'r ONR i:

  • asesu diogelwch, effeithiau amgylcheddol ac effeithiau gwastraff cynllun gorsaf ynni niwclear newydd, cyn i gais cael ei wneud i adeiladu ar safle penodol
  • ymwneud â'r gwaith ar y cam cynharaf fel y gellir datrys problemau'n effeithiol ac yn effeithlon
  • sicrhau bod unrhyw orsafoedd ynni niwclear newydd yn cyrraedd safonau uchel o ran diogelwch, diogelu'r amgylchedd a rheoli gwastraff.

Rydym yn cyhoeddi adroddiadau chwarterol ar ein cynnydd.

Daeth ein hymgynghoriad ar ein 'Hasesiad o Gynlluniau Cyffredinol' mewn perthynas â dau gynllun gorsaf ynni niwclear newydd i ben ym mis Hydref 2010. O ystyried y daeargryn mawr yn Nwyrain Japan a'r digwyddiadau dilynol yng ngorsaf ynni niwclear Fukushima gwnaethom ehangu ein hasesiad fel y gallem ystyried y gwersi a ddysgwyd o Fukushima yn ein hasesiadau o'r cynlluniau.

Ar 14 Rhagfyr 2011 gwnaethom gyhoeddi Datganiadau interim o Dderbynioldeb Cynlluniau (iSoDAs) ar gyfer y ddau gynllun adweithydd newydd (EPR™ EDF/Areva ac AP1000®  a gynlluniwyd gan Westinghouse Electric Company). Gwnaethom hefyd gyhoeddi ein dogfennau penderfyniadau sy'n nodi ac yn egluro ein penderfyniadau ac yn ymateb i'r materion a godwyd yn ystod ein hymgynghoriadau ar ein canfyddiadau hyd yma yn 2010.

Rhagor o wybodaeth am ACC

  • Beth y gallwch chi ei wneud 
  • Cylch oes adweithydd niwclear
  • Y newyddion diweddaraf
  • Digwyddiadau i randdeiliaid
  • Adroddiadau chwarterol ar asesu gorsafoedd ynni niwclear newydd
  • Materion ACC

      Trwyddedu safleoedd niwclear newydd

      Rydym yn gyfrifol am drwyddedau amgylcheddol allweddol yn ymwneud ag adeiladu a gweithredu gorsafoedd ynni niwclear a hefyd am 'ddatblygiadau cysylltiedig' perthnasol megis llety i weithwyr a chyfleusterau 'parcio a theithio'.

      Bydd yn rhaid i unrhyw gwmni sydd am adeiladu a gweithredu gorsaf ynni niwclear newydd wneud cais i ni am ystod o drwyddedau, gan gynnwys y rhai ar gyfer gollyngiadau ymbelydrol, gollyngiadau dŵr oeri a gweithredu generaduron wrth gefn.

      Byddwn yn penderfynu a ddylid cyhoeddi'r trwyddedau a pha amodau y dylid eu cymhwyso.

      Rhagor o wybodaeth am drwyddedu safleoedd

      Gwaith arall

      Mae ein gwaith mewn perthynas â safleoedd niwclear newydd hefyd yn cynnwys:

      • darparu gwybodaeth am yr amgylchedd o amgylch safleoedd posibl fel y gall datblygwyr wneud penderfyniadau cadarn
      • rhoi cyngor ar gwmpas Asesiadau o Effaith Amgylcheddol datblygwyr a darparu gwybodaeth ar gyfer yr asesiadau
      • rheoleiddio ymchwiliadau safle y mae angen eu cynnal i wneud yn siŵr bod safleoedd yn addas i'w datblygu
      • darparu cyngor cyn gwneud cais
      • ymateb i ymgyngoriadau a gynhelir gan y Llywodraeth, datblygwyr ac awdurdodau lleol
      • rhoi cyngor ar faterion sy'n ymwneud â pherygl llifogydd a pherygl arfordirol ar gyfer safleoedd i'w datblygu, gan gynnwys 'datblygiadau cysylltiedig' nad ydynt ar brif safle'r orsaf ynni, er enghraifft llety i weithwyr
      • rhoi cyngor a gwybodaeth i'r Comisiwn Cynllunio Seilwaith mewn perthynas â chynllunio a materion sy'n ymwneud â rheoleiddio
      • rheoleiddio'r safleoedd ar gyfer materion amgylcheddol yn ystod eu camau adeiladu, gweithredu a dadgomisiynu.

      Rhagor o wybodaeth