Map Llifogydd – atebion i’ch cwestiynau

Atebion i gwestiynau a ofynnir yn aml ynghylch y Map Llifogydd

1. Beth yw'r Map Llifogydd?

Map aml-haenog yw'r Map Llifogydd sy'n rhoi gwybodaeth am lifogydd o afonydd a'r môr yng Nghymru a Lloegr. Mae'r Map Llifogydd hefyd yn rhoi gwybodaeth am amddiffynfeydd rhag llifogydd a'r ardaloedd sy'n cael budd o'r amddiffynfeydd hynny.

2. Beth mae'n ei ddangos?

Mae allwedd y Map Llifogydd yn cynnwys yr haenau canlynol o wybodaeth:

  • Llifogydd o afonydd neu'r môr heb amddiffynfeydd - ardal naturiol y gorlifdir y gallai llifogydd o afonydd a'r môr effeithio arni. 

 - Ar gyfer llifogydd o afonydd, mae'r map yn nodi maint llifogydd sydd â phosibilrwydd o 1% (1 mewn 100) o ddigwydd bob blwyddyn
 - Ar gyfer llifogydd o'r môr, mae'r map yn nodi maint llifogydd sydd â phosibilrwydd o 0.5% (1 mewn 200) o ddigwydd bob blwyddyn.

  • Maint llifogydd eithafol - maint llifogydd sydd â phosibilrwydd o 0.1% (1 mewn 1000) o ddigwydd bob blwyddyn.
  • Amddiffynfeydd rhag llifogydd - amddiffynfeydd rhag llifogydd fel argloddiau a muriau, ac ardaloedd storio llifogydd (sef ardaloedd o dir sydd wedi'u cynllunio ac sy'n gweithio er mwyn storio dŵr llifogydd).
  • Ardaloedd sy'n cael budd o'r amddiffynfeydd rhag llifogydd - lle mae'n bosibl, dangoswn yr ardaloedd sy'n cael budd o'r amddiffynfeydd rhag llifogydd a ddangosir, mewn achos o lifogydd o afon sydd â phosibilrwydd o 1% (1 mewn 100) o ddigwydd bob blwyddyn, neu lifogydd o'r môr sydd â phosibilrwydd o 0.5% (1 mewn 200) o ddigwydd bob blwyddyn. Pe na fyddai’r amddiffynfeydd rhag llifogydd yn bodoli, byddai'r ardaloedd hyn dan ddŵr. Sylwer nad ydym yn dangos pob ardal sy'n cael budd o'r amddiffynfeydd rhag llifogydd.
  • Main rivers - these are usually larger streams and rivers.  Our powers to carry out flood defence works apply to main rivers only.  In England, Defra decides which are the main rivers.  The Welsh Assembly Government does this in Wales.

Nid yw'r Map Llifogydd yn rhoi gwybodaeth am ddyfnder llifogydd, cyflymder llifogydd na chyfaint y llif.  Nid yw'n dangos llifogydd o ffynonellau eraill ychwaith, fel dŵr daear, dŵr ffo o gaeau, neu garthffosydd yn gorlifo.  Gallai fod gan swyddfa leol Asiantaeth yr Amgylchedd ragor o wybodaeth am y rhain.  Ffoniwch 0370 8506506 i wybod pwy y dylech chi gysylltu â hwy yn eich swyddfa leol.

3. Sut cafodd y Map Llifogydd ei greu?

Mae'r Map Llifogydd yn cyfuno data lleol manwl o astudiaethau modelu a mapio gyda gwybodaeth o fodel cenedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr.

Ar gyfer afonydd, mae data arolygon manwl yn rhoi gwybodaeth i ni am dopograffeg neu arwynebedd y tir, a gyfunir â'r wybodaeth am lifoedd. Ar gyfer ardaloedd arfordirol, rydym unwaith eto yn cymryd data arolygon manwl a'i gyfuno â data lefel y môr a thonnau a ddadansoddwyd. Mae hynny’n ein galluogi i ganfod lefel y dŵr ar yr arfordir a sut y gallai'r dŵr orlifo i'r tir.  Os nad oes mapio manwl ar gael, ychwanegir modelu cyffredinol cenedlaethol at ein data, sy'n rhoi darlun cyson o berygl llifogydd ar gyfer pob afon sydd â dalgylch sy’n fwy na 3 km2 a'r môr.

4. Pwy sy'n defnyddio'r Map Llifogydd a pham?

Cynlluniwyd y Map Llifogydd i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill o'r tebygolrwydd o lifogydd, ac annog pobl sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd sy'n dueddol o orlifo i wybod mwy a chymryd camau priodol.

Hefyd, gall y Map Llifogydd gael ei ddefnyddio gan y bobl hynny sy'n dymuno gwneud cais am ganiatâd cynllunio yn Lloegr i weld a yw safle'r datblygiad arfaethedig mewn ardal lle ceir perygl o lifogydd.

Er mwyn cynorthwyo deiliaid tai ac yswirwyr wrth ddarparu yswiriant, rydym wedi rhoi gwybodaeth i gwmnïau yswiriant sy'n aelodau o Gymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI) sy'n rhoi asesiad cenedlaethol o'r tebygrwydd o lifogydd o afonydd a'r môr, o fewn y gorlifdir gan ystyried amddiffynfeydd rhag llifogydd. Dyma'r cam cyntaf i yswirwyr wrth asesu perygl o lifogydd ar gyfer lleoliad cyffredinol ac yn rhan o ystod ehangach o wybodaeth a ddefnyddir ganddynt yn eu hasesiad perygl.

5. A yw’r Map Llifogydd yn cael ei ddiweddaru?

Pan fydd rhagor o wybodaeth briodol ar gael, caiff ei chynnwys mewn diweddariadau chwarterol i'r Map Llifogydd cyhoeddedig. Caiff y diweddariadau hyn eu gwneud ym mis Ionawr, mis Ebrill, mis Gorffennaf a mis Hydref.  Caiff amddiffynfeydd nad ydynt yn cael eu dangos ar hyn o bryd eu hychwanegu'n raddol drwy'r diweddariadau chwarterol hyn.

6. Pam mae angen diweddaru'r map?

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf orau i'r cyhoedd am berygl llifogydd.  Mae ein modelau yn rhagfynegol a phan fydd llifogydd go iawn, bydd angen i ni ddiwygio'r mapiau gan ystyried y wybodaeth newydd a gafwyd.
Mae gennym raglen wella barhaus hefyd; wrth i fodelau manylach gael eu datblygu, ac wrth i ni gael mwy o wybodaeth, rydym yn diweddaru'r mapiau.

7. Pa mor gywir yw'r data?

Mae mapio llifogydd yn broses gymhleth, manwl a helaeth ac ni all fod yn holl gywir ond byddwn bob amser yn rhoi'r wybodaeth orau sydd ar gael, gan ddefnyddio data cyson cenedlaethol.  Mae'r Map Llifogydd yn rhoi darlun da o'r ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, ni all roi manylion am eiddo unigol.

8. Roeddwn i'n credu fy mod i'n cael fy amddiffyn rhag llifogydd ond nid yw'n dangos hynny ar eich map

Ni chaiff pob amddiffynfa ac ardal sy'n cael budd o amddiffynfeydd rhag llifogydd eu dangos eto. Caiff mwy eu hychwanegu fel rhan o'r broses ddiweddaru. Rydym hefyd yn gwneud llawer o waith cynnal a chadw a chlirio i'n hafonydd i leihau'r posibilrwydd o lifogydd, ond nid oes lle i ddangos hyn i gyd ar y Map Llifogydd.

9. Beth mae tebygolrwydd o lifogydd yn ei olygu?

Caiff y tebygolrwydd o lifogydd ei ddisgrifio fel y posibilrwydd y ceir llifogydd mewn lleoliad mewn unrhyw flwyddyn.  Caiff y tebygolrwydd ei fynegi fel canran h.y. 1%, neu fel posibilrwydd, a fynegir, er enghraifft, fel posibilrwydd o 1 mewn 100 mewn unrhyw flwyddyn. Mae'n bwysig cofio bod perygl o lifogydd bob amser - eleni, y flwyddyn nesaf ac mewn blynyddoedd i ddod.

10. Sut ydw i'n gwybod a allaf yswirio fy nghartref rhag llifogydd?

Bydd cwmnïau yswiriant yn penderfynu a ydynt yn cynnig yswiriant rhag llifogydd i eiddo. Fodd bynnag, golyga cytundeb a wnaed rhwng Cymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI) a'r Llywodraeth yn 2002, ac a ddiweddarwyd yn 2005 a 2008, sef ABI Statement of Principles, fod cwmnïau yswiriant yn cynnig yswiriant i lawer o safleoedd sydd mewn perygl o lifogydd.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi helpu i sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl gael yswiriant drwy roi gwybodaeth am berygl llifogydd ledled Cymru a Lloegr o Asesiad Perygl Llifogydd Cenedlaethol.  Ciplun yw hwn o berygl llifogydd yn genedlaethol yn 2008.  Rhoddir y wybodaeth o'r asesiad hwn ar y wefan i ategu'r Map Llifogydd.  Drwy glicio y tu mewn i un o'r ddwy ardal las yn y gorlifdir, gallwch weld pa un o'r tri chategori o debygolrwydd o lifogydd (sylweddol, cymedrol neu isel) sy'n berthnasol yma. Mae'r categorïau hyn yn seiliedig ar y tebygolrwydd o lifogydd o afonydd a'r môr yn y lleoliad, gan ystyried presenoldeb ac effaith amddiffynfeydd rhag llifogydd.  Gan mai asesiad cenedlaethol ydyw, ni all nodi'r tebygolrwydd gwirioneddol o lifogydd o ran unrhyw eiddo penodol.

11. A fydd fy nghwmni yswiriant yn defnyddio Map Llifogydd?

Rydym yn rhoi'r un wybodaeth i gwmnïau yswiriant ar berygl llifogydd â'r hyn a welwch ar y rhyngrwyd trwy glicio ar un o ardaloedd glas y gorlifdir. Nid yw ein mapiau llifogydd yn dangos y risg penodol i unrhyw eiddo gan ein bod yn mapio llifogydd yn ôl ardaloedd. Y rheswm am hynny yw nad yw'n bosibl gwybod yr holl wybodaeth ynghylch pob eiddo, er enghraifft pa mor uchel yw lefel y lloriau uwch ben lefel y tir. Felly, cam cyntaf y broses asesu risg llifogydd ar gyfer lleoliad cyffredin yw’r wybodaeth hon i gwmnïau yswiriant. 

12. Beth os oes gwallau yn y data? A fydd yn effeithio ar yswiriant fy nhŷ?

Mae'r Asesiad Perygl Llifogydd Cenedlaethol (NaFRA) yn rhoi syniad i ni, ar lefel genedlaethol, o'r tebygolrwydd o lifogydd ar ardaloedd o dir.

Gan ddefnyddio'r wyddoniaeth ddiweddaraf, sy'n datblygu drwy'r amser, caiff llawer o ddata gwahanol ei fodelu i roi trosolwg o le mae llifogydd fwyaf tebygol ledled y wlad. Nid yw'n dweud wrthym yn benodol pa eiddo a fydd yn mynd dan ddŵr, ond mae'n rhoi syniad da o'r ardaloedd o dir a allai fynd dan ddŵr.

Fodd bynnag, gan ei fod yn defnyddio swm anferth o ddata, o sawl cronfa ddata wahanol yng Nghymru a Lloegr, mae rhai gwallau, er nad ydynt yn newid y trosolwg cenedlaethol, sy'n gallu effeithio ar y darlun lleol o berygl llifogydd. Wrth i ni ddatblygu'r NaFRA byddwn yn gwella'r data er mwyn cywiro'r gwallau hyn.

Dywedwyd wrth bob cwmni (gan gynnwys yswirwyr) sy'n defnyddio data NaFRA ei fod yn ddangosol yn unig. Ni ddylid ei ddefnyddio ar ei ben ei hun i wneud penderfyniadau am berygl o lifogydd lleol. Mae amryw o ffyrdd o sicrhau bod data yn gywir, gan gynnwys cysylltu â'n swyddfeydd ardal yn uniongyrchol i gael y wybodaeth ddiweddaraf, o'r astudiaethau diweddaraf, am berygl o lifogydd. Rydym wedi cytuno â'r diwydiant yswirio y gall perchnogion eiddo gysylltu â ni i edrych ar eu perygl o lifogydd. Os nad yw'r data cenedlaethol yn adlewyrchu'r sefyllfa leol yn gywir, byddwn yn rhoi llythyr iddynt â'r data perygl o lifogydd lleol diweddaraf i anfon at eu hyswirwyr.

Rydym eisoes yn gweithio ar sut y caiff NaFRA ei ddatblygu yn y dyfodol, er mwyn rhoi darlun mwy cwmpasog fyth o berygl o lifogydd.

13. Sut y cyfrifwyd y tebygolrwydd o lifogydd ac a yw'n ystyried newid yn yr hinsawdd?

Cyfrifwyd y tebygolrwydd o lifogydd gan ddefnyddio lefelau dŵr a ragfynegwyd ac ystyried lleoliad, math a chyflwr unrhyw amddiffynfeydd rhag llifogydd, pa un a ddangosir hwy ar y Map Llifogydd ar hyn o bryd ai peidio.
Mae NaFRA yn asesiad o'r perygl o lifogydd yn seiliedig ar wybodaeth a ddiweddarwyd diwethaf yn 2008. Mae'n dangos tebygolrwydd a chanlyniadau llifogydd a allai ddigwydd nawr. Mae'n ystyried newidiadau yn yr hinsawdd sydd eisoes wedi digwydd ond nid yw'n dangos sut y bydd y peryglon yn cynyddu yn y dyfodol yn sgîl newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, bwriadwn ddatblygu a defnyddio'r dull hwn i ganfod sut y gallai'r tebygolrwydd o lifogydd newid yn y dyfodol yn sgîl newid yn yr hinsawdd.
Mae'n werth cofio y gallai ehangder posibl llifogydd eithafol a ddangosir ar y Map Llifogydd ddod yn fwy 'arferol' yn y dyfodol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.

14. Pam nad oes gwybodaeth am y tebygolrwydd o lifogydd ar gyfer fy ardal i?

Mae'r dull o gyfrifo'r tebygolrwydd o lifogydd yn annibynnol ar y dull o gyfrifo ehangder llifogydd. Mae cyfrifiadau'r tebygolrwydd yn fwy cymhleth ac yn gofyn am setiau data mewnbwn manylach. Nid oedd y data ychwanegol hwn ar gael ar gyfer nifer fach iawn o leoliadau ar adeg creu'r tebygolrwydd o lifogydd. Rydym yn gwella ac yn diweddaru'r data yn barhaus a byddwn yn lleihau'r ardaloedd lle nad oes gwybodaeth.

15. Pam mae clicio ar unrhyw un o fannau glas y gorlifdir yn dweud wrthyf bod fy ardal i y tu allan i ehangder llifogydd eithafol, tra bod y map yn dangos fy ardal yn glir yn y gorlifdir?

Ciplun o'r tebygolrwydd o lifogydd, yn genedlaethol, yw'r wybodaeth a geir drwy glicio ar unrhyw un o fannau glas y gorlifdir. Mae dau reswm posibl pam y gallai ddweud wrthych eich bod y tu allan i ehangder llifogydd eithafol pan fo'r map yn dangos eich ardal yn y gorlifdir.  Un rheswm posibl yw bod yr ardal yr edrychwch arni o fewn tri metr i afon, aber neu fôr.  Os felly, efallai yr hoffech geisio clicio ychydig yn bellach i ffwrdd.

Yr ail reswm posibl yw ein bod wedi diweddaru ehangder llifogydd eithafol ar y map - byddwn yn gwneud hyn bob tri mis os bydd gennym well gwybodaeth - ond nid ydym wedi diweddaru'r asesiad o'r tebygolrwydd o lifogydd eto.  Mae'r tebygolrwydd o lifogydd yn seiliedig ar asesiad y bwriadwn ei gynnal yn flynyddol.

16. Pam mae gan ardal sydd y tu ôl i amddiffynfa debygolrwydd "sylweddol" neu "gymedrol" o lifogydd?

Nid yw amddiffynfeydd rhag llifogydd yn gwaredu perygl llifogydd yn llwyr, ond maent yn ei leihau. Caiff amddiffynfeydd eu hadeiladu i wrthsefyll llifogydd o faint penodol ond gallai dŵr fynd drostynt neu gallant fethu naill ai o ganlyniad i dywydd eithafol neu gyflwr gwael. Caiff amddiffynfeydd eu hadeiladu yn unol â gwahanol safonau dylunio yn ôl anghenion lleol. Mae gwybodaeth am y tebygolrwydd o lifogydd yn ystyried cyflwr yr amddiffynfeydd yn ogystal â'r graddau y maent yn diogelu ardal.

Efallai y bydd swyddfa leol Asiantaeth yr Amgylchedd yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth am yr amddiffynfeydd yn eich ardal.  Ffoniwch 0370 8506506 i wybod pwy y dylech chi gysylltu â hwy yn eich swyddfa leol.

17. Pam mae data tebygolrwydd o lifogydd weithiau'n nodi perygl sylweddol ar gyfer mannau sydd yn yr ardal glas golau?

Cyfrifwyd ehangder y llifogydd a ddangosir ar Fap y Llifogydd a data tebygolrwydd o lifogydd a geir drwy glicio ar unrhyw un o fannau glas y gorlifdir uwchben y map gan ddefnyddio dwy fethodoleg wahanol ac annibynnol. Mae data tebygolrwydd o lifogydd yn ystyried amddiffynfeydd rhag llifogydd a allai dorri neu fethu adeg digwyddiad mawr.

18. A yw eich asesiad perygl llifogydd diweddaraf yn dangos bod perygl llifogydd yn cynyddu'n flynyddol?

Yn y pen draw, bydd y NaFRA yn ein galluogi i fonitro'r perygl o lifogydd bob blwyddyn i ganfod a yw'n cynyddu o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, datblygiadau pellach ar y gorlifdiroedd a/neu o ganlyniad i gyflwr amddiffynfeydd rhag llifogydd presennol yn gwaethygu. Ond mae angen gwella'r asesiad ymhellach cyn y gallwn ei ddefnyddio at y diben hwn.

Gan mai dim ond y pedwerydd tro yw hwn i NaFRA Cymru a Lloegr gael ei gynnal, ni allwn weld tuedd yn y canlyniadau er mwyn gallu ateb y cwestiwn hwn. Fodd bynnag, wrth i asesiadau gael eu cwblhau yn y dyfodol disgwyliwn weld tuedd yn lefel y perygl o lifogydd.
Disgwylir i'r asesiadau hyn ddangos bod y perygl o lifogydd yn cynyddu. Rydym am wybod beth yw maint y cynnydd a faint o arian y bydd ei angen os penderfynwn gynnal y perygl ar y lefel bresennol neu os penderfynwn leihau'r perygl.

Bydd pob penderfyniad a wnawn ynghylch rheoli'r perygl o lifogydd yn seiliedig ar asesiadau perygl llifogydd priodol fel y gallwn sicrhau y bydd ein camau gweithredu yn arwain at y budd mwyaf yn sgîl buddsoddiad, wedi ei fesur gan leihad yn y perygl o lifogydd. Mae'n bwysig bod ein hasesiadau perygl llifogydd yn gysylltiedig â'r rhai a wnaed gan eraill (e.e. y system cynllunio gofodol) i sicrhau nad yw penderfyniadau cynllunio yn rhoi mwy o fywydau nac eiddo mewn perygl.

19. Beth a gaiff ei gynnwys yn yr asesiad, a beth na chaiff ei gynnwys?

Mae'r NaFRA yn cynnwys llifogydd o bob afon sydd â dalgylch yn fwy na 3km2, a phob llifogydd o'r môr (ar hyd yr arfordir agored ac aberoedd llanw). Caiff afonydd llai eu cynnwys yn yr asesiad os ydynt yn yr ardal y gallai llifogydd eithafol effeithio arni (posibilrwydd o 0.1% mewn unrhyw flwyddyn). Nid yw'n cynnwys mathau eraill o lifogydd fel draeniau priffyrdd, carthffosydd, llif dros y tir neu ddŵr daear yn codi.

Mae'r asesiad yn ystyried y math o amddiffynfeydd rhag llifogydd, eu lleoliad a'u cyflwr. 

20. Pam nad ydych yn cynnwys mathau eraill o lifogydd yn eich data, yn ogystal â llifogydd o afonydd a'r môr?

Datblygwyd NaFRA â'r posibilrwydd o'n galluogi i gynnwys mathau eraill o lifogydd yn ein hasesiadau perygl llifogydd yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae angen i ni sicrhau bod dulliau priodol gennym i asesu'r perygl hwnnw, ein bod yn deall yr ansicrwydd sy'n gysylltiedig â'r canlyniadau. Yn dilyn yr adolygiad o lifogydd Haf 2007 rydym wedi bod yn cysylltu â phartneriaid fforwm gwrthsefyll lleol (e.e. awdurdodau lleol, cwmnïau dŵr ac ati) i gasglu data o fathau eraill o lifogydd er mwyn eu bwydo i'r gronfa ddata genedlaethol. Yna gallwn ddefnyddio'r data i helpu i ddilysu a gwella asesiadau perygl llifogydd yn y dyfodol.

21. Nid wyf yn cytuno â'r map ar gyfer fy ardal i. Rwyf am herio eich gwybodaeth.

Os credwch nad yw lleoliad penodol mewn perygl o lifogydd, neu os oes gennych wybodaeth y credwch nad ydym wedi'i hystyried, cysylltwch â swyddfa leol Asiantaeth yr Amgylchedd, a fydd yn ystyried eich sylwadau ac yn rhoi cyngor ar gamau priodol. Fodd bynnag, mae'n annhebygol y byddem yn gallu ystyried diwygio'r Map Llifogydd ar sail tystiolaeth anecdotaidd yn unig.

22. Nid yw fy eiddo erioed wedi ymddangos yn y gorlifdir o'r blaen ond mae yno nawr, pam?

Rydym wedi ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf orau i'r cyhoedd am berygl llifogydd.  Mae data newydd o astudiaethau lleol yn dod ar gael yn barhaus ac fe'i ddefnyddir i ddiweddaru'r Map Llifogydd yn chwarterol, er mwyn sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf ar gael.  Golyga hyn fod rhai ardaloedd na wyddem eu bod mewn perygl o lifogydd yn y gorffennol bellach yn ardaloedd y gwyddom eu bod mewn perygl; mewn ardaloedd eraill, golyga ein dealltwriaeth fanylach o ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd ein bod wedi lleihau'r maint a ddangosir ar y Map Llifogydd.

23. A oes gwasanaeth rhybuddion llifogydd ar gael i mi?

Drwy ddefnyddio'r cyswllt ar y Map Llifogydd, gallwch gael gwybod a allwch gael rhybudd o lifogydd ymlaen llaw. 

24. Bûm yn byw yn fy mhentref am 50 mlynedd ac rwyf yn gwybod nad yw'r eiddo hwn erioed wedi bod o dan ddŵr. Pam y caiff ei ddangos ar eich Map Llifogydd?

Mae'n bosibl iawn na fydd llifogydd sydd â phosibilrwydd o 1% (1 mewn 100) neu 0.1% (1 mewn 1000) o ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn yn digwydd o fewn cyfnod o 50 mlynedd. Nid yw bod ar orlifdir o anghenraid yn golygu y bydd eich cartref neu eich busnes yn mynd o dan ddŵr - mae angen ystyried llawer o ffactorau eraill hefyd. Canllaw yw'r mapiau a dylent annog pobl sy'n byw ger afon neu'r môr i fod yn ymwybodol ac i gael rhagor o wybodaeth.

25. Nid wyf yn byw ger afon na'r môr, felly pam fy mod i'n ymddangos ar eich Map Llifogydd?

Mae llif llifogydd yn dilyn cyfuchlinellau naturiol y ddaear - felly gallai'r ardal a allai fynd o dan ddŵr fod cryn bellter o afon.  Gallai'r lleoliad fod ar lwybr llifddwr.  Fel arall, gallai fod cyrsiau dŵr â chwlfer o dan yr eiddo neu gerllaw na wyddoch amdanynt - pan fydd llifogydd, efallai na fydd y rhain yn gallu cludo holl lif y llifogydd, a bydd peth dŵr yn llifo uwchben y ddaear.

Gall llifogydd ddod o ffynonellau eraill megis dŵr daear a dŵr wyneb ffo, ond ni chaiff llifogydd o'r ffynonellau hyn eu dangos ar ein map.

26. Sut y gallaf gael copi o'r Map Llifogydd?

Gallwch wneud cais am gopi wedi'i argraffu ar gyfer eich lleoliad chi, at eich defnydd personol, drwy gysylltu â Swyddfa leol Asiantaeth yr Amgylchedd, neu drwy ffonio ein Gwasanaeth Cyswllt Cenedlaethol i Gwsmeriaid ar 0370 8506506 neu enquiries@environment-agency.gov.uk. Mae ffi yn gysylltiedig ag ailddefnyddio data electronig, neu ddata at ddefnydd masnachol neu fusnes. Gall y Ganolfan Menter Gwybodaeth ddarparu trwydded at y diben hwn:  mailto:commercial.services@environment-agency.gov.uk