Map Llifogydd – amodau a thelerau ei ddefnyddio

Rydych yn cytuno â’r telerau ac amodau wrth ddefnyddio’r map llifogydd

Ymwadiad

Noder bod y mapiau hyn ond yn dangos y tebygolrwydd disgwyliedig o orlifo o afonydd neu’r môr mewn mannau diffiniedig ac nid ydynt yn ddigon manwl i roi manylion am gyfeiriadau penodol. Felly, mae’n bosibl nad yw eiddo unigol yn wynebu’r un posibilrwydd o orlifo â’r mannau sy’n eu hamgylchynu.
Mae’n bosibl bydd gorlifo yn digwydd ar adegau penodol lle nad yw’r patrwm gorlifo a welir mewn gwirionedd yn cymharu â’r patrymau disgwyliedig a ddangosir ar y mapiau hyn.

Os ydych chi’n credu nad yw eiddo penodol yn wynebu’r posibilrwydd o orlifo fel y’i dangosir ar y mapiau yma, neu os oes gyda chi wybodaeth yr ydych chi’n credu nad ydym ni wedi’i ystyried, yna cysylltwch â’ch swyddfa Asiantaeth yr Amgylchedd leol yma.

Mae ein data gorlifo yn cael ei ddiwygio a’i ddiweddaru pob chwarter. Mae’n bosib nad yw rhai o’r mannau sydd wedi manteisio’n barod ar atalfeydd llifogydd i’w gweld ar y mapiau hyn. Er nad yw’r mapiau’n dangos yr atalfeydd llifogydd i gyd, mae'r asesiadau ‘sylweddol’, ‘cymedrol’ ac ‘isel’ yn ystyried yr effaith mae’r atalfeydd hyn yn ei gael.


Rydym wedi tybio bod amddiffynfeydd rhag llifogydd a strwythurau gweithredol eraill yn gweithio’n berffaith ac yn rhoi’r un lefel o amddiffyniad â phan gynhaliwyd ein hasesiad o’r ardal. Nid yw amddiffynfeydd rhag llifogydd yn diddymu’r siawns o lifogydd yn gyfan gwbl, a gallai dŵr dasgu dros ei ben neu gallai fethu pan fo’r tywydd yn eithafol.

Rydym wedi gwneud popeth a fedrwn i sicrhau bod y mapiau’n adlewyrchu'r holl ddata sydd yn ein meddiant ac rydym wedi defnyddio’n gwybodaeth arbenigol i greu canlyniadau sydd mor ddibynadwy ag sy’n bosibl. Credwn ein bod wedi creu mapiau i’r safon orau y medrwn ac ni fyddwn yn atebol os nad yw’r mapiau o’u hanfod mor gywir ag y dymunem iddynt fod neu os cânt eu camddefnyddio neu eu camddeall er gwaethaf ein rhybuddion. Oherwydd hyn, ni fedrwn addo bydd y mapiau yn gywir bob tro nac yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf. Asiantaeth yr Amgylchedd yw perchennog yr holl hawlfraint eiddo deallusol yn y data a’r wybodaeth ar y wefan hon neu maent wedi’u trwyddedu gan ddarparwyr trydydd parti. 


Mae’r safle hwn yn cynnwys data mapio trwyddedig gan Arolwg Ordnans a ddefnyddiwyd er mwyn gosod data Asiantaeth yr Amgylchedd yn ei gyd-destun daearyddol. Mae Arolwg Ordnans yn cadw hawlfraint y deunydd hwn a ni ellir ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.