Dyfrffyrdd Prydain
Corfforaeth gyhoeddus yw Dyfrffyrdd Prydain Rydym yn rheoli ac yn gofalu am fwy na 2000 o filltiroedd (3220 cilometr) o gamlesi ac afonydd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ar ran pobl Prydain. Ymunom a grŵp NFTPG i rannu arfer gorau, canfod atebion i’r problemau sy’n wynebu tirfeddianwyr mawr wrth ddelio â chanlyniadau tipio anghyfreithlon a sicrhau bod rheolyddion yn deall yr heriau sydd ynghlwm wrth dipio anghyfreithlon i’r rheini sy’n darparu ased cyhoeddus ac adnodd hamdden hygyrch.
Campaign to Protect Rural England (CPRE)
Sefydlwyd elusen Campaign to Protect Rural England (CPRE) ym 1926, ac mae’n hyrwyddo harddwch, tawelwch ac amrywiaeth cefn gwlad Lloegr. Gan amlygu bygythion a hyrwyddo atebion cadarnhaol, mae CPRE yn ymgyrchu dros ddyfodol cynaliadwy i gefn gwlad Lloegr, sy’n ased amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol hanfodol i’r genedl nad yw’n cael ei barchu digon.
Mae CPRE yn elusen gofrestredig â mwy na 60,000 o aelodau a chefnogwyr ac mae’n gweithredu fel rhwydwaith â mwy na 200 o grwpiau rhanbarth, cangen ym mhob sir, grŵp ym mhob rhanbarth a Swyddfa Genedlaethol. Mae dros 2000 o gynghorau plwyf ac 800 o gymdeithasau amwynder yn perthyn i CPRE, sy’n gwneud CPRE yn gyfuniad pwerus o weithredu lleol ac ymgyrchu cenedlaethol cryf. Ymgyrch bwysicaf CPRE ar gyfer 2008-2010 yw Stop the Drop, sef ymgyrch yn erbyn sbwriel a thipio anghyfreithlon i’w harwain gan Lywydd CPRE Bill Bryson.
Mae CPRE hefyd yn cynnal Litter Action,ar y cyd, sef cymuned ar-lein o grwpiau gwirfoddol ac unigolion sy’n dod ynghyd i weithredu ynghylch problemau sbwriel yn lleol.
Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff
Y Sefydliad Siartredig Rheoli GwastraffI yw’r corff sy’n cynrychioli buddiannau rheolwyr gwastraff proffesiynol yn y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon a’r tu hwnt. Drwy ei raddau aelodaeth proffesiynol, mae gan y Sefydliad aelodau mewn awdurdodau lleol, sefydliadau contractio a rheolyddion gwastraff sy’n gwneud mwy ar y cyd ynghylch materion tipio anghyfreithlon nag unrhyw grŵp na sector arall.
Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad
Mae gan y Gymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad ryw 40,000 o aelodau sydd gyda’i gilydd yn rheoli tua 5 miliwn hectar o gefn gwlad Cymru a Lloegr. Sylfaenwyd y Gymdeithas bron can mlynedd yn ôl i amddiffyn buddiannau perchenogion tir gwledig. Erbyn hyn, mae ein haelodaeth yn cwmpasu amrywiaeth lawn tir, eiddo a busnes; y profiad a’r arbenigedd hwn sy’n ein galluogi i ymladd yn gryf dros economi wledig ffyniannus. Bu tipio anghyfreithlon yn bla ar fywydau llawer o’n haelodau ac mae’n parhau i fod felly: mae tir gwledig anghysbell yn aml yn agored i’r rhai sy’n tipio’n anghyfreithlon ac yn anodd i’w gylchwylio.
Y Cynghrair Cefn Gwlad
Hanfod y Cynghrair Cefn Gwlad yw pobl. Rydym yn gweithio i bawb sydd wrth eu bodd â chefn gwlad a’r ffordd wledig o fyw. Drwy ymgyrchu, lobïo, cyhoeddusrwydd ac addysg, mae’r Gynghrair yn dylanwadu deddfwriaeth a pholisi cyhoeddus sy’n effeithio ar gefn gwlad a phobl wledig.
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn gweithio dros hanfodion bywyd – bwyd, aer, tir, dŵr, pobl, anifeiliaid a phlanhigion. Ein cylch gwaith yw mynd ar drywydd datblygu cynaliadwy – gan blethu pryderon economaidd cymdeithasol ac amgylcheddol.
Mae pawb yn haeddu byw mewn cymdogaeth ffyniannus lle gallant deimlo’n ddiogel a chartrefol. Rydym eisiau sicrhau bod mwy o gymdogaethau’n lleoedd lle mae pobl eisiau byw heddiw ac yn y dyfodol.
Mae Defra wedi ymrwymo i wella ansawdd yr amgylchedd lleol a mynd i’r afael yn benodol â gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon neu ‘dipio anghyfreithlon’. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, bu Defra wrthi’n ymgynghori ar gamau niferus i wella pwerau awdurdodau lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd i ymdrin â throseddau gwastraff anghyfreithlon a thipio anghyfreithlon.
Mae Defra wedi gweithio’n agos hefyd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Gymdeithas Llywodraeth Leol i ddatblygu Flycapture, y gronfa ddata tipio anghyfreithlon genedlaethol. Mae Defra wedi cyflwyno Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005, sy’n cynnwys amrywiaeth o bolisïau rhagweithiol a fydd yn diweddaru a moderneiddio’r ddeddfwriaeth ac yn darparu cosbau a threfniadau dedfrydu mwy hyblyg i’r llysoedd.
Ni fydd gwaith Defra yn cael ei wneud ar ei ben ei hun; yn hytrach, mae’n rhan o’r ymdrech draws-Lywodraeth ehangach i gyflawni amgylcheddau glanach, mwy diogel a gwyrddach. Ynghyd ag wyth adran arall, byddwn yn gweithio’n agos gyda Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (ODPM) i’w helpu i gyrraedd ei tharged Cytundeb Gwasanaeth Cyhoeddus newydd (PSA 8) i wella mannau cyhoeddus.
ENCAMS
Elusen genedlaethol yw ENCAMS sy’n gweithio i wella ansawdd yr amgylchedd lleol a chwtogi ar ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae ENCAMS yn rhedeg ymgyrch Cadw Prydain yn Daclus ynghyd ag ymgyrchoedd eraill sy’n targedu materion ansawdd amgylcheddol amrywiol. Rydym hefyd yn cynnal rhaglenni fel y Rhwydwaith Glanach, Mwy Diogel, Gwyrddach. Yn rhanbarthol, rydym yn cefnogi awdurdodau lleol a rheolwyr tir eraill i ymdrin â’r materion hyn drwy waith pwrpasol, seminarau a monitro. Rydym wedi ymgyrchu i gwtogi ar dipio anghyfreithlon drwy annog aelodau’r cyhoedd i adrodd yn ei gylch ac ysgogi teimladau o ofn ymhlith y rhai sy’n tipio’n anghyfreithlon. Ynghyd â’n cyhoeddiadau a’n gwaith ymchwil ar dipio anghyfreithlon, mae hyn yn rhoi arfer da ar gyfer gweithgareddau’r dyfodol.
Asiantaeth yr Amgylchedd
Ein gwaith ni yw gofalu am yr amgylchedd a’i wneud yn lle gwell. Yr amgylchedd yw’r aer rydych yn ei anadlu, y dŵr rydych chi’n ei yfed a’r ddaear rydych chi’n cerdded arno. Drwy weithio gyda busnes, Llywodraeth a chymdeithas gyfan, rydym yn gwneud yr amgylchedd yn lanach ac iachach.
Mae gennym rôl amrywiol wrth fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon. Gweithiwn gyda’r Llywodraeth ac eraill i nodi atebion i’r broblem. Mae gennym hefyd rôl weithredol, yn ymchwilio i ddigwyddiadau a chymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai sy’n tipio’n anghyfreithlon. Rydym hefyd yn trefnu ac yn cadeirio cyfarfodydd NFTPG ac yn cefnogi’r grŵp. (http:www.environment-agency.gov.uk)
Cymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol
Environment and Heritage Service (Gogledd Iwerddon)
Nod Environment and Heritage Service (EHS) yw gwarchod, diogelu a hyrwyddo ein hamgylchedd naturiol a’n treftadaeth adeiledig er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Mae EHS ar flaen y gad o ran cynghori ynghylch strategaeth a pholisi amgylcheddol y Llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon, a’u rhoi ar waith. Mae’r Asiantaeth yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau, sy’n hyrwyddo rhai o themâu allweddol y Llywodraeth sef datblygu cynaliadwy, bioamrywiaeth a newid hinsawdd.
Ein nod cyffredinol yw gwarchod a diogelu treftadaeth naturiol ac amgylchedd adeiledig Gogledd Iwerddon, i reoli llygredd a hyrwyddo gwerthfawrogiad ehangach o’r amgylchedd ac arferion amgylcheddol gorau.
Ffederasiwn Busnesau Bach
Y Ffederasiwn Busnesau Bach yw’r grŵp pwysau ymgyrchu mwyaf sy’n hyrwyddo buddiannau busnesau bach. Fe’i ffurfiwyd ym 1974 ac erbyn hyn mae ganddo 190,000 o aelodau. Nid yw’r Ffederasiwn yn gwneud elw nac yn gysylltiedig â phlaid wleidyddol. Mae busnesau bach yn dioddef yn sgil tipio anghyfreithlon felly rydym yn awyddus i gynorthwyo i ffurfio polisi i gwtogi ar weithgareddau felly.
Heddlu Caint
Mae cysylltiad agos rhwng ymddygiad gwrthgymdeithasol a thipio anghyfreithlon, sbwriel a cherbydau gadawedig, ac mae’n gallu arwain ar droseddau eraill. O ganlyniad, mae Heddlu Caint bellach yn bartneriaid gweithgar mewn mynd i’r afael â materion ehangach sy’n effeithio ar gymunedau lleol ac yn bartneriaid gweithgar lleol yn 'Ymgyrch Clean Kent'. Mae hyn yn caniatáu cydlynu nifer o bartneriaid i wneud Caint yn Lanach, Gwyrddach a Mwy Diogel.
Bu gan Heddlu Caint ran bwysig i’w chwarae mewn prosiectau fel ymgyrch CUBIT, i leihau effaith cerbydau gadawedig, ac estynnwyd hyn i glirio sbwriel a thipio anghyfreithlon o dan ymgyrch CUBIT Plus. Heddlu Caint oedd y grym cyntaf yn y DU i benodi Swyddog Troseddau Gwledig ac Amgylcheddol pwrpasol, Cwnstabl Michael Laidlaw; ei waith ef yw cynghori am ddeddfwriaeth amgylcheddol yn ogystal â materion gwledig eraill, ac mae’n ymwneud yn helaeth ag ymgyrch Clean Kent.
Fel ffordd o gwtogi’n llym ar droseddwyr cyson, mae Heddlu Caint hefyd wedi cynorthwyo drwy roi cyngor ar ddefnyddio gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBO) ar gyfer troseddau tipio anghyfreithlon. Yn sgil ymyriad felly gan Heddlu Caint, rhoddwyd ASBO i rywun a gafwyd yn euog o droseddau gwastraff, y cyntaf o’i fath yn y wlad. Mae newidiadau deddfwriaeth ar ffurf Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005 wedi cynyddu’r cosbau ar gyfer troseddau gwastraff, gan roi pŵer i’r heddlu arestio mewn rhai amgylchiadau. Mae Heddlu Caint yn gweithio’n agos gyda’r bartneriaeth i sicrhau bod y pwerau’n cael eu defnyddio’n effeithiol i wneud Caint yn lle glanach i fyw
Ewch hefyd i http://www.cleankent.co.uk/
Cymdeithas Llywodraeth Leol
Mae http://www.lga.gov.uk/ yn hyrwyddo buddiannau awdurdodau lleol Cymru a Lloegr - sef ychydig o dan 500 o awdurdodau. Mae’r rhain yn cynrychioli dros 50 miliwn o bobl ac yn gwario tua £74 biliwn y flwyddyn ar wasanaethau lleol. Mae’r Gymdeithas yn bodoli i hyrwyddo gwell llywodraeth leol. Gweithiwn gyda’n haelod-awdurdodau, ac ar eu rhan, i wireddu gweledigaeth gyffredin o lywodraeth leol sy’n galluogi pobl leol i ffurfio dyfodol arbennig a gwell i’w hardal a’i chymunedau. Ein nod yw rhoi cynghorau lleol wrth wraidd yr ymdrech i wella gwasanaethau cyhoeddus a gweithio gyda’r llywodraeth i gefnogi’r amcan hwn
Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr
Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yw’r sefydliad ffermio mwyaf yn y DU, sy’n cynrychioli tua thri chwarter o’r ffermwyr masnachol amser llawn yng Nghymru a Lloegr. Mae tipio anghyfreithlon yn broblem fawr ar dir fferm. Mae’n niwsans, mae’n gallu llygru cyrsiau dŵr a halogi tir ond gall hefyd fod yn berygl i dda byw sy’n pori. Mae NFTPG yn darparu fforwm ardderchog i gyfnewid gwybodaeth am dipio anghyfreithlon a’r cyfle i ddadlau materion yn uniongyrchol â Llywodraeth a rheolyddion. Mae cryfder y grŵp yn yr amrywiaeth o sefydliadau a gynrychiolir a’r dull gwaith partneriaeth.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaetholhe yn gofalu am fannau arbennig am byth, i bawb. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ceisio sicrhau bod ein 300 o gartrefi, gerddi, arfordir a chefn gwlad agored yn fannau sy’n ysbrydoli ymwelwyr, lle gallant ymlacio, mwynhau a chael cyfoethogiad i bawb. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw sefydliad cadwraeth mwyaf Ewrop ac mae’n rheoli eiddo ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gall llawer o’r eiddo hwn ddioddef yn sgil tipio anghyfreithlon ac mae’r Ymddiriedolaeth yn aelod gweithgar o NFTPG.
Network Rail
Mae Network Rail yn cynnal a chadw ac yn berchen ar 21,000 o filltiroedd o reilffordd ledled Prydain. Ein prif gwsmeriaid yw’r cwmnïau gweithredu trenau a chludo sy’n cynnal gwasanaethau trên y genedl. Network Rail yw un o dirfeddianwyr mwyaf y DU, gydag ystâd o 57,000 hectar, ac mae delio â thipio anghyfreithlon yn her sylweddol a chostus iddo. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r llywodraeth a rhanddeiliaid allweddol eraill i rannu arfer gorau a nodi a gweithredu atebion tymor hir.
forwm Tipio Anghyfreithlon yr Alban - Keep Scotland Beautiful
Cynrychiolir Fforwm Tipio Anghyfreithlon yr Alban ar NFTPG i sicrhau bod gwybodaeth a phrofiad yn cael eu rhannu ledled Prydain Fawr.
Sefydlwyd Fforwm Tipio Anghyfreithlon yr Alban gyda holl randdeiliaid allweddol yr Alban y mae tipio anghyfreithlon yn effeithio arnynt a’r sefydliadau sy’n gyfrifol am archwilio a gwaredu llawer o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon. Mae gwaith y Fforwm yn cynnwys:
- Cronfa ddata genedlaethol o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon
- Ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol
- Darparu arfer gorau
- Hyfforddiant i swyddogion gorfodi awdurdod lleol
Caiff y Fforwm ei gynnal a’i gadeirio gan Keep Scotland Beautiful (KSB).
Elusen amgylcheddol yw KSB sy’n anelu at gyflawni amgylcheddau cynaliadwy sy’n rhydd o sbwriel. Ers dros 40 mlynedd, bu KSB yn gweithredu fel sefydliad i wella ansawdd amgylcheddau lleol yn yr Alban. Enw blaenorol y grŵp oedd Keep Scotland Tidy, a bu ar flaen y gad o ran materion gwrth-sbwriel, gwastraff a morol i annog arfer da a datblygu cynaliadwy.
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ledled Cymru, yn bennaf drwy ddarparu cyllid i gefnogi Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru yn ei hymagwedd unigryw drwy brosiectau megis “Ymfalchïo yn Ein Cymunedau" sy’n canolbwyntio ar waith partneriaeth mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol yn rhanbarthol.
Mae’r Strategaeth Tipio Anghyfreithlon yn amlinellu tair elfen ein hymosodiad, sef gorfodi, addysg a gwaith partneriaeth.