Mae’r Grŵp Cenedlaethol dros Atal Tipio Anghyfreithlon (NFTPG) yn grŵp o sefydliadau sy’n gweithio gyda nod cyffredin: dod o hyd i atebion i broblem tipio anghyfreithlon.
Fe welwch yma wybodaeth am ein gwaith a’n haelodau ac awgrymiadau am ffyrdd syml y gallwch helpu i atal tipio anghyfreithlon. Gallwch gael cyngor am yr hyn y dylech ei wneud os gwelwch rywun yn tipio’n anghyfreithlon, neu os ydych yn dioddef yn sgil tipio anghyfreithlon.
Mae’r Grŵp wedi llunio dogfen gyfarwyddyd fanylach Mynd i’r afael â Thipio Anghyfreithlon: canllaw i dirfeddiannwyr a rheolwyr tir sy’n cynnwys gwybodaeth am ddeddfwriaeth ac astudiaethau achos sy’n disgrifio sut mae aelodau’r Grŵp wedi mynd i’r afael â phroblemau tipio anghyfreithlon a wynebwyd ganddynt.
Nid yw’r Grŵp yn gallu ymateb i ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon. Os hoffech adrodd digwyddiad, ewch i Yr hyn i’w wneud os byddwch yn dod ar draws tipio anghyfreithlon
Rydym yn gweithio i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon drwy:
- gyfnewid gwybodaeth am dipio anghyfreithlon
- cyfrannu at ddatblygu polisi a deddfwriaeth llywodraeth
- hybu ymwybyddiaeth, a chyhoeddi problemau a materion
- rhannu arfer gorau am atal a gorfodi tipio anghyfreithlon
- annog cydweithio.
Mae ein haelodaeth, a gaiff ei chadeirio gan Asiantaeth yr Amgylchedd, yn cynnwys cyrff rheoleiddiol, adrannau Llywodraeth a sefydliadau ag aelodaeth eang o dirfeddiannwyr a rheolwyr tir.
Gallwch ganfod rhagor am ein haelodau cyfredol.
Our action plan for the future (PDF, 35KB)
Flycapture enforcement training course